Dirprwyaeth agri-food o Tsieina yn ymweld â chanolfan ymchwil

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae dirprwyaeth o Tsieina wedi ymweld â Chanolfan Ymchwil Dyfrol Cynaliadwy (CSAR) Prifysgol Abertawe yr wythnos hon fel rhan o genhadaeth i ddenu cwmnïau rhyngwladol i Gymru.

Chinese delegation at CSARMae Gweinyddiaeth y Wladwriaeth ar gyfer Materion Arbenigwyr Tramor Tsieina (CSAFEA) ar genhadaeth hel ffeithiau, i ddysgu mwy am ymchwil amaethyddol y DU ac i ddatblygu ac adnabod cyfleoedd i gydweithio.

Ymwelodd y ddirprwyaeth â CSAR i ddod o hyd i ragor o wybodaeth am  y sector dyframaeth yng Nghymru ac am feysydd arbenigedd ymchwil y Ganolfan Ymchwil.

‎Sefydlwyd CSAR yn 2005, i ddatblygu technolegau cynaliadwy ar gyfer cynhyrchu bwyd dyfrol yng Nghymru ac yn rhyngwladol. Ers hynny mae wedi tyfu'n gyflym ac wedi amrywio ei hymchwil i gynnwys cwestiynau sylfaenol am ecoleg a ffisioleg ddyfrol, ynghyd â gwaith datblygu technoleg gymhwysol.

‎‎Mae'r Ganolfan Ymchwil, a leolir yng Ngholeg Gwyddoniaeth y Brifysgol, yn gartref i swît o labordai amgylchedd a reolir lle y mae amrywiaeth o organebau dŵr ffres a dŵr croyw megis pysgod, algae, pysgod cregyn ac infertebratau eraill yn cael eu tyfu dan amgylchiadau optimwm ac yn cael eu harchwilio gyda chyfleusterau cynhwysfawr ar gyfer samplu maes a gwaith dadansoddi yn y labordy.

‎Mae CSAR yn gweithredu ar ran gweithwyr acwafeithrin a physgotwyr masnachol, darparwyr technoleg a chynghorau ymchwil. Mae'r Ganolfan hefyd yn cynghori sefydliadau llywodraethol, yn y DU ac yn rhyngwladol.

Yn ystod eu hymweliad, dysgodd y ddirprwyaeth o Tsieina hefyd am ymchwil arloesol ym maes rheoli plâu amaethyddol, sy'n cael ei chynnal gan y grŵp BANP a arweinir gan yr Athro Tariq Butt.

Meddai Mr Hao Peng, sy'n arwain y ddirprwyaeth: "Hoffwn ddiolch i'n gwesteiwyr o Brifysgol Abertawe, am roi eu hamser yn hael i drefnu ymweliad da heddiw. Roedd y cyflwyniadau a'r teithiau'n addysgiadol a gwnaethant ddarparu cwmpas gwych ar gyfer cydweithrediadau ym maes acwafeithrin ac amaethyddiaeth.”

Meddai Dr Robin Shields, Cynghorydd Strategol Uwch CSAR: "Roedd yn bleser croesawu'r grŵp nodedig o arbenigwyr acwafeithrin ac amaethyddiaeth Tsieineaidd i CSAR. Rydym wedi cynnal trafodaethau cynhyrchiol ar feysydd diddordeb a rannir ac wedi adnabod themâu ar gyfer cydweithrediadau yn y dyfodol. Rydw i'n edrych ymlaen at ddatblygu'r rhain ymhellach gyda chydweithwyr o Tsieina dros y misoedd nesaf."