Disgyblion yn Brwydro i Gyrraedd Brig Cystadleuaeth Roboteg o Bwys

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd pobl ifanc (11-19) ar draws Cymru yn profi eu sgiliau rhaglennu ac yn brwydro i ddod i frig y Gystadleuaeth Roboteg Genedlaethol Big Bang Cymru wythnos nesaf.

Bydd y gystadleuaeth a drefnir gan Technocamps ac a gefnogir gan Addysg LEGO yn cael ei chynnal ym Mhrifysgol De Cymru Trefforest (Prifysgol Morgannwg gynt) ddydd Mercher 3 Gorffennaf. Bydd disgyblion o Ysgolion Bangor ac Aberystwyth yn cymryd rhan mewn cystadlaethau rhanbarthol hefyd.

Yn ôl Neil Taylor, Rheolwr Addysg LEGO Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon: ‘‘Mae Addysg LEGO yn falch iawn o’r gwaith y mae Technocamps yn ei wneud ar draws Cymru ac o’r herwydd yn awyddus i’w cefnogi trwy gyfrwng y gystadleuaeth hon.

Mae wedi darparu’r myfyrwyr â chyfle gwych i weithio fel rhan o dîm, datblygu dyluniadau creadigol, magu sgiliau rhaglennu a pheirianneg a’u defnyddio mewn bywyd o ddydd i ddydd. Rydym yn edrych ymlaen at weld y canlyniadau ac rwy’n gobeithio y bydd y profiad yn ysbrydoli’r disgyblion i barhau i astudio pynciau o’r math yma yn y dyfodol.’’

Mae’r disgyblion wedi bod wrthi’n ddiflino dros y misoedd diwethaf yn ymgymryd â sialensiau amgylcheddol yn ystod sesiynau amser cinio ac ar ôl ysgol a drefnir gan Technocamps.

Roedd disgwyl iddynt ddylunio robot sy’n cwblhau tasgau arbennig i gynorthwyo’r amgylchedd. Yn ychwanegol, mi wnaethant greu fideo a phoster yn esbonio mwy am yr her.

Ychwanegodd yr Athro Faron Moller, Cyfarwyddwr Technocamps: ‘‘Mae’r gystadleuaeth wedi galluogi’r disgyblion i ddatblygu sgiliau datrys problemau, cyfathrebu a gwaith tîm yn ogystal â dealltwriaeth o’r maes mewn ffordd hwyliog a dyfeisgar. Mae roboteg yn datblygu’n gyson felly rwy’n edrych ymlaen at weld yr hyn fydd y bobl ifanc wedi llwyddo i’w gyflawni.’’