Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.
Mae Prifysgol Abertawe wedi derbyn naw ysgoloriaeth ymchwil PhD gan Ganolfan Hyfforddiant Doethurol (DTC) Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) Cymru ar gyfer 2013.
Rhagwelir y bydd yr ysgoloriaethau ymchwil breintiedig hyn yn denu myfyrwyr eithriadol a chanddynt radd anrhydedd dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch a/neu radd meistr priodol. Bydd y myfyrwyr yn ymuno â chymuned o fyfyrwyr ôl-raddedig sy'n tyfu sydd wedi'u cartrefu yn Sefydliad Ymchwil Gwyddorau Cymdeithasol Cymhwysol (RIASS) y Brifysgol.
Mae'r ysgoloriaethau ymchwil PhD ar gael ar gyfer y meysydd ymchwil canlynol:
- Economeg
- Daearyddiaeth Ddynol
- Astudiaethau Rhanbarthol ar Sail Iaith
- Astudiaethau Cyfreithiol Cymdeithasol (Troseddeg)
- Gwaith Cymdeithasol a Gofal Cymdeithasol
Meddai'r Athro Judith Phillips, Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol Abertawe a Chyfarwyddwr RIASS: 'Rydym wrth ein bodd bod Canolfan Hyfforddiant Doethurol ESRC Cymru wedi dyfarnu naw ysgoloriaeth ymchwil PhD bellach i Abertawe ar gyfer 2013. Bydd y buddsoddiad hwn yn y genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr ym maes y gwyddorau cymdeithasol yn galluogi Abertawe i barhau i ddenu'r ymgeiswyr doethur gorau ac yn atgyfnerthu ein cymuned ymchwil ôl-raddedig llwyddiannus ym maes y gwyddorau cymdeithasol.'
- Dydd Llun 15 Ebrill 2013 11.40 BST
- Dydd Mawrth 10 Medi 2019 12.30 BST
- Swansea University, Ffôn: 01792 295050