Effaith Troseddeg: Ymchwilwyr Abertawe'n ennill Medal Ymchwil Cynghrair Howard 2013

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Enwyd yr Athro Kevin Haines a Dr Stephen Case o Ganolfan Cyfiawnder Troseddol a Throseddeg Prifysgol Abertawe yn gyd-enillwyr Medal Ymchwil Cynghrair Howard yn 2013 am eu gwaith ar gynllun dargyfeirio ieuenctid Biwro Abertawe.

Prof Kevin HainesDr Stephen Case

Mae tîm Abertawe, sy'n gweithio yn Ysgol y Gyfraith yn y Brifysgol (http://www.swansea.ac.uk/law/) yn rhannu'r fedal gyda dau ymchwilydd o Brifysgol Caeredin, yr Athrawon Lesley McAra a Susan McVie, am eu gwaith ar Astudiaeth Caeredin ar Gyfnodau Trosiannol Ieuenctid a Throsedd Ieuenctid.

Mae'r fedal, a roddir er cof am yr Arglwydd Parmoor, yn dathlu rhagoriaeth ac effaith ymchwil ar faterion yn ymwneud â chosbau.  Caiff y fedal ei chyflwyno i'r enillwyr yn y derbyniad gwin a gynhelir bob haf gan Lywydd Cynghrair Howard.  Cynhelir derbyniad eleni ddydd Iau 4 Gorffennaf ar Deras Tŷ'r Cyffredin, ym Mhalas San Steffan.

Dywedodd yr Athro Haines: "Rydym wrth ein boddau ein bod wedi ennill y wobr hon, a derbyn cydnabyddiaeth am ein hymchwil ac am waith Gwasanaeth Troseddu Ieuenctid Abertawe.

"Rydym wrth ein boddau hefyd ein bod yn rhannu'r wobr hon â chydweithwyr o Brifysgol Caeredin.  Mae gyda ni feddwl mawr o'u gwaith.

Enw'r ymchwil gan yr Athro Haines a Dr Case yw: The Swansea Bureau: A partnership model of diversion from the Youth Justice System.

Sefydlwyd cynllun dargyfeirio Biwro Abertawe (http://www.justice.gov.uk/youth-justice/effective-practice-library/swansea-bureau-children-first,-offending-second) trwy bartneriaeth gyda Thîm Troseddu Ieuenctid Abertawe a Heddlu De Cymru, ac fe'i cefnogwyd trwy'r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol.

Mae'r Biwro'n gweithio gyda phobl ifanc sy'n cyfaddef eu bod wedi cyflawni eu trosedd gyntaf; gan asesu eu hanghenion ar ôl iddynt gael eu harestio, a chan gynnull panel penderfynu sy'n cynnwys y person ifanc a'i deulu i benderfynu ar gynllun gweithredu addas.

Mae'r Biwro'n 'normaleiddio' troseddu (gan ei drin fel ymddygiad cyffredin ymhlith pobl ifanc), ac yn hyrwyddo ymddygiad cymdeithasgar, hawliau plant, ac ymwneud y rhieni a'r teulu.

Ers i'r Biwro gael ei sefydlu, mae'r ystadegau'n nodi lleihad blynyddol o ran: y nifer sy'n troseddu am y tro cyntaf, y nifer sy'n dod i mewn i'r System Cyfiawnder Ieuenctid am y tro cyntaf, y nifer o gamau ffurfiol a gymerir o fewn y system (Rhybuddion, Rhybuddion Terfynol, Erlyniadau), yn ogystal â chynnydd yn nifer y camau anffurfiol (dargyfeirio).

Mae'r Biwro wedi derbyn adborth ansoddol cadarnhaol eang oddi wrth randdeiliaid.  Hefyd, mae ymchwil yr Athro Haines a Dr Case, a'i effaith ar bobl ifanc, wedi cael cryn sylw yn ddiweddar gan Academi'r Gwyddorau Cymdeithasol, yn ei chyfres 'Gwneud yr Achos'  (http://www.acss.org.uk/).