Gwlad yr Addewid? Barack Obama a "Breuddwyd" Martin Luther King’

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Yn rhan o gyfres darlithoedd a digwyddiadau cyhoeddus Sefydliad Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau, ac i ddathlu Mis Hanes y Bobl Dduon, mae Prifysgol Abertawe yn trefnu darlith am ddim sy'n canolbwyntio ar Barack Obama a breuddwyd Martin Luther King ar gyfer yr Unol Daleithiau.

Chris MarshallTeitl: Gwlad yr Addewid? Barack Obama a "Breuddwyd" Martin Luther King

Siaradwr: Chris Marshall, Prifysgol Abertawe

Dyddiad: Dydd Llun 21 Hydref 2012

Amser: Bydd lluniaeth ysgafn ar gael o 6pm, a bydd y ddarlith yn cychwyn am 6:30pm

Lleoliad: Darlithfa Wallace, Adeilad Wallace, Prifysgol Abertawe

Mynediad: Mynediad am ddim, croeso i bawb.

Mae'r ddarlith hon gan Chris Marshall, myfyriwr doethuriaeth ymchwil a Rheolwr Prosiectau Strategol y Brifysgol, yn ystyried sut mae Obama wedi'i leoli ei hun yn etifedd Martin Luther King, a sut mae wedi ei roi ei hun yn naratif mudiad Hawliau Sifil America.

Dywedodd Chris, "Pedwar deg pum mlynedd ar ôl yr Orymdaith i Washington, byddai pobl yn honni bod yr Americanwr cyntaf o dras Affricanaidd i gael ei ethol yn Arlywydd yn gwireddu 'Breuddwyd' Martin Luther King - cysylltiad yr oedd Obama yn ei hyrwyddo yn ystod ei ymgyrch etholiadol.

"Bydd y ddarlith hon, ym mlwyddyn hanner canmlwyddiant araith eiconig Dr King, yn ystyried sut y bu i Obama ei osod ei hun yn rhan o hanes y mudiad Hawliau Sifil trwy ei gyflwyno ei hunan fel yr arweinydd a fyddai'n mynd â'i bobl i 'Wlad yr Addewid', sef y cydraddoldeb hiliol a warantir gan gyfansoddiad UDA. Bydd hefyd yn trafod beth, mewn gwirionedd, fu effaith ei ethol ar gysylltiadau hiliol yn yr Unol Daleithiau."

Gan ddechrau ar 1 Hydref, mae 'Mis Hanes y Bobl Dduon' yn ceisio hyrwyddo gwybodaeth am hanes y bobl dduon.  Mae hefyd yn dathlu diwylliant ac yn coffáu'r cymunedau ar draws y byd sydd wedi gwneud cyfraniad pwysig dros y canrifoedd; bellach, cynhelir miloedd o ddigwyddiadau yn y Deyrnas Unedig bob mis Hydref yn rhan o'r dathliad hwn.

Dywedodd Dr Elaine Canning, Dirprwy Gyfarwyddwr y Sefydliad, "Mae darlith Chris Marshall ar y cysylltiad rhwng Obama a gwireddu 'Breuddwyd' Martin Luther King yn amserol wrth i ni gofio hanner canmlwyddiant araith Dr King eleni a dathlu Mis Hanes y Bobl Dduon. Mae'n addo bod yn ddarlith gyfareddol ar bwnc cyfamserol iawn."

Mae'r ddarlith yn rhan o gyfres darlithoedd a digwyddiadau Sefydliad Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau sydd wedi croesawu nifer o bobl enwog yn siaradwyr. Bydd rhaglen eleni'n cynnwys Huw Edwards; 104ydd Archesgob Caergaint, Dr Rowan Williams;, ac Archesgob Cymru, Dr Barry Morgan.

Manylion cyswllt:

Am ragor o wybodaeth: e-bost: riah@abertawe.ac.uk  - Ffôn: 01792 295190