Gwleidydd yn Dathlu Cyfraniad Merched Ddoe, Heddiw ac Yfory

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Ddydd Gwener, 8 Mawrth bydd Prifysgol Abertawe yn cynnal cynhadledd aml-ddisgyblaethol i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod.

LeanneWood

Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood fydd yn agor y gynhadledd yng Ngwesty’r Morgans, Abertawe cyn cymryd rhan mewn sesiwn cyngor gyrfa i ferched chweched dosbarth.

Bydd y merched o Ysgolion Bryn Tawe, Gyfun Gŵyr a Maes yr Yrfa yn derbyn cyngor gan y Gwleidydd Cymreig yn ogystal ag arweinwyr benywaidd eraill sydd wedi llwyddo mewn meysydd megis Gwyddoniaeth, Darlledu, Busnes a’r Celfyddydau Gweledol.

Yr Athro Siwan Davies, Elin Rhys, Heledd Bebb a Ffion Rhys fydd â’r gamp o geisio darbwyllo’r merched ifanc bod modd cyrraedd y brig mewn bywyd trwy ddisgyblaeth a dyfalbarhad.

I ddilyn, bydd yr Archdderwydd Dr Christine James a’r Uwch-ddarlithydd yn Academi Hywel Teifi yn cadeirio panel fydd yn rhoi sylw i rai o arloeswyr y gorffennol gan gynnwys Amy Dillwyn, Winifred Coombe Tennant a Mary Wynne Warner.

Bydd panel trafod arall yn canolbwyntio ar fenter merched gan ystyried sut y gellid eu hannog i fwrw iddi i fyd busnes a goroesi’r rhwystrau sy’n eu hwynebu wrth gychwyn ar eu llwybr gyrfa ac ymdopi ag ymrwymiadau bywyd teuluol.

Yn ôl Non Vaughan Williams, Darlithydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol mewn Cyfryngau Digidol gydag Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe: “Bydd y gynhadledd yn rhoi cyfle i ni dynnu sylw merched ifanc a’r gymuned ehangach at gyfraniad menywod sydd wedi cyrraedd y brig yn eu dewis feysydd, menywod sy’n esiampl addas i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o Gymry benywaidd. Y neges fyd-eang yw i ni ‘feddwl yn rhyngwladol, ond i weithredu yn lleol’ a dyna fyddwn ni yn ei wneud yn Abertawe ar 8 Mawrth, gan geisio sicrhau fod y dyfodol i ferched yn un hafal, teg a llawn gobaith.”

Ychwanegodd Leanne Wood: “Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn achlysur i hyrwyddo’r cyfraniad pwysig mae merched yn ei wneud yn ein cymunedau ac mewn bywyd cyhoeddus. Mae’n hollbwysig ein bod ni’n coffau’r cynnydd sydd wedi ei wneud gan ferched ym maes gwleidyddiaeth, yr economi, yn ein diwylliant ac mewn cymdeithas. Ond rydym hefyd yn ymwybodol bod llawer mwy angen ei wneud cyn cyrraedd gwir gydraddoldeb. Bydd yn ddiwrnod i ysbrydoli ein merched i anelu’n uchel a dangos iddynt bod modd cyrraedd y brig mewn unrhyw faes gyda disgyblaeth a dyfalbarhad.2