Gŵyl Ymchwil: There’s something about Mary (Rose)

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd y ddarlith gyhoeddus hon, sy'n rhad ac am ddim ac sy'n agored i bawb, yn ymdrin â sut y mae gwyddoniaeth yn datgelu mwy a mwy am long ryfel y 16eg ganrif y Mary Rose a'i phreswylwyr, yn enwedig saethwyr bwâu saeth y brenin.

Mary Rose skullTeitl: There’s something about Mary (Rose): How science is unraveling the mysteries of Henry VIII’s favourite warship.

Siaradwyr: Nick Owen a Dr Sarah Forbes-Robertson,

y Ganolfan Ymchwil Ymarfer a Meddyginiaeth Technoleg Chwaraeon Cymhwysol (A-STEM)

Y Coleg Peirianneg

Dyddiad: Dydd Mawrth 26 Chwefror

Amser: 12.30 pm

Lleoliad: Canolfan y Celfyddydau Taliesin, Prifysgol Abertawe

Mynediad: Mynediad am ddim a chroeso i bawb

Dewch i ddysgu am 'Tomos'. Ef yn fwy na thebyg oedd capten saethwyr y brenin, ac roedd yn athletwr elit a oedd yn gallu cyflawni gorchestion anhygoel o fedr corfforol. Wedi hyfforddi ers yn 7 mlwydd oed, roedd yn gyfoethog ac yn llwyddiannus tan ei farwolaeth sydyn am 4 pm ar Orffennaf 19 1545 pan iddo foddi, ynghyd â 400 o'i griw ar y Mary Rose wrth i'r llong suddo i waelod y môr.

Bydd Nick a Sarah yn esbonio sut y mae technoleg o'r radd flaenaf yn helpu i ddatgelu cyfrinachau'r llong ryfel a'r hyn y mae'r gweddillion o sgerbydau ac arteffactau yn ei ddatgelu am y saethwyr.