Modelling the evolution of cities and regions: past and present

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae hyn yn parhau cyfres o ddarlithoedd ym Mhrifysgol Abertawe gan wyddonwyr cyfrifiadurol o fri.

Coleg Gwyddoniaeth: Darlithoedd Disglair Cyfrifiadureg Abertawe
Trefnir y ddarlith hon ar y cyd â Chymdeithas Ddysgedig Cymru

Teitl: Modelling the evolution of cities and regions: past and present

Siaradwr: Yr Athro Syr Alan Wilson FBA FRS, Coleg y Brifysgol, Llundain 


Amser: 4pm

Dyddiad: Dydd Mawrth, 5 Mawrth 2013

Lleoliad: Ystafell Orllewinol, Tŷ Fulton, Prifysgol Abertawe


Crynodeb o'r digwyddiad: Sut mae dinasoedd a rhanbarthau'n gweithio? Sut maent yn esblygu? Mae'r cwestiynau hyn yn rhai sylweddol, ac maent yn heriol i wyddoniaeth ac o ran cynllunio at y dyfodol. Yn ei hanfod, mae'r wyddoniaeth yn rhyngddisgyblaethol: datblygir modelau sy'n tynnu ar ddaearyddiaeth, economeg, cymdeithaseg, a hanes, fel y gellid disgwyl, ond maent hefyd yn tynnu ar ffiseg, ecoleg, mathemateg, a chyfrifiadureg. Amlygir y modelau trwy eu cymhwyso i sefyllfaoedd megis manwerthu cyfoes a'r terfysgoedd yn Llundain; strwythur aneddiadau hynafol yng Ngwlad Groeg, Creta, ac Asyria; ac effaith y rheilffyrdd ar ddatblygu trefol yn yr Unol Daleithiau.

Bywgraffiad y Darlithydd: Mae Syr Alan Wilson yn Athro Systemau Trefol a Rhanbarthol yn y Ganolfan Dadansoddi Gofodol Blaengar yng Ngholeg y Brifysgol, Llundain, ac mae'n Gadeirydd Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau. Mae ei ymchwil cyfredol, a gefnogir gan grantiau gwerth oddeutu £3miliwn o'r ESRC a'r EPSRC, yn ymwneud ag esblygiad dinasoedd a deinameg masnach a mudo byd-eang. Bu'n Is-ganghellor Prifysgol Leeds rhwng 1991 a 2004, paen aeth yn Gyfarwyddwr Cyffredinol Addysg Uwch yn yr Adran Addysg a Sgiliau, fel yr oedd bryd hynny. Mae'n Aelod o Academia Europaea, yn Gymrawd yr Academi Brydeinig, yn Academydd yn Academi'r Gwyddorau Cymdeithasol, ac yn Gymrawd y Gymdeithas Frenhinol. Fe'i hurddwyd yn farchog am wasanaethau i addysg uwch yn 2001. Cyhoeddwyd ei lyfrau, Knowledge power: interdisciplinary education for a complex world, gan Routledge yn 2010, The science of cities and regions, gan Springer yn Ionawr 2012 a Urban modelling, llyfr pum cyfrol a olygwyd ganddo) gan Routledge ym Medi 2012.