Myfyriwr o'r Ysgol Rheoli'n ennill interniaeth Nike

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae myfyriwr ail flwyddyn o'r Ysgol Rheoli wedi cael cynnig interniaeth, ar ôl cystadlu brwd, gyda Nike, y cwmni rhyngwladol. Bydd Alexander Dodd-Jones yn treulio blwyddyn ym mhencadlys y cwmni yn yr Iseldiroedd, lle caiff gyfle eithriadol i gael profiad o weithio i'r cwmni byd-eang dynamig ac arloesol hwn.

Roedd yr holl ymgeiswyr o'r Ysgol Rheoli wedi gwneud argraff da ar Nike.  Aeth yr ymgeiswyr ar y rhestr fer trwy broses drylwyr o gyflwyniadau a chyfweliadau cyn i'r cwmni ddod i'r penderfyniad terfynol. Bydd Alex yn cychwyn ar ei interniaeth y mis hwn, cyn dychwelyd i Abertawe yn 2014 i orffen ei flwyddyn olaf.

Mae'r interniaeth yn fan cychwyn i nifer o ddatblygiadau cyffrous yn yr Ysgol Rheoli. Mae'r Ysgol wrthi ar hyn o bryd yn cyflwyno lleoliadau chwe mis neu flwyddyn mewn diwydiant ar gyfer y cyfan o'i rhaglenni israddedig. Bydd y lleoliadau hyn yn rhoi cyfle i fyfyrwyr gyfuno profiad gwaith ymarferol ac astudio academaidd. Bydd myfyrwyr yn fwy gweladwy i ddarpar gyflogwyr, ond byddant hefyd yn ennill y sgiliau sydd eu hangen yn y byd gwaith.  Bydd hynny o fantais fawr iddynt pan ddaw at chwilio am yrfa ar ôl gorffen eu graddau.

Dywedodd yr Athro Nigel Piercy, Deon yr Ysgol Rheoli, "Mae hyn yn gyfle enfawr i Alex, a dylai ysbrydoli ei gyd-fyfyrwyr. Roedd Nike wedi datgan yn glir nad oedd ond yn chwilio am y rhai 'eithriadol ac arloesol, â chymhelliad cryf' ar ei gynlluniau interniaeth, ac rydym yn falch iawn eu bod wedi dod o hyd i'r nodweddion hyn yn ein myfyrwyr."