Myfyriwr yn ennill gwobr am ymchwil ar ddaeargrynfeydd

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae myfyriwr o Brifysgol Abertawe wedi ennill cystadleuaeth am ei waith yn archwilio sut y gall daeargrynfeydd neu wyntoedd cryf effeithio ar adeiladau a strwythurau eraill.

Enillodd Panagiotis Manis, myfyriwr o'r Coleg Peirianneg sy'n astudio am ei gymhwyster MEng ar hyn o bryd, y wobr gyntaf ar ôl cystadlu yn erbyn pedwar  unigolyn arall yn rownd derfynol cystadleuaeth papur Graddedigion a Myfyrwyr Sefydliad Peirianwyr Sifil (ICE) Cymru. 

Cyflwynodd bapur o'r enw “Computer Simulation of Earthquake and Wind Excited Truss Structures” a ddangosodd modelau cyfrifiadur o strwythurau peirianneg sifil mewn daeargrynfeydd neu wyntoedd, er mwyn gallu rhagfynegi'r llwyth syrthio i helpu gwella'r safonau dylunio. Mae'r prosiect hefyd wedi cynnwys rhai astudiaethau achos realistig tu hwnt megis model cyfrifiadur o'r Tŵr Eiffel ym Mharis.

Bydd Panagiotis yn derbyn ei wobr mewn seremoni yng Nghaerdydd cyn mynd ymlaen i gynrychioli Cymru yng nghystadleuaeth genedlaethol ICE y DU yn Llundain yn hwyrach eleni.

ICE competition winnerMeddai goruchwyliwr Panagiotis, Dr Antonio Gil: “Panagiotis oedd yr unig fyfyriwr ymhlith y pump yn rownd derfynol y gystadleuaeth sy'n agored i raddedigion sydd eisoes yn gweithio mewn cwmnïau peirianneg sifil ar draws Cymru. Cafodd ei berfformiad rhagorol cryn argraff ar y beirniaid ac mae gobeithion uchel gennym ar ei gyfer yn y gystadleuaeth genedlaethol. Bu'n llawer o hwyl goruchwylio ei brosiect Lefel 3 y llynedd. Roedd ymrwymiad Panagiotis yn amlwg o'r dechrau."

Meddai Panagiotis: "Rydw i wrth fy modd fy mod wedi ennill gwobr mor freintiedig, yn enwedig gan fod fy ngwaith wedi creu argraff ar beirianwyr sifil o ansawdd uchel tu hwnt. Mae'n gydnabyddiad pendant o'm gwaith caled a'm hymdrech ac mae'n ffynhonnell cymhelliad ar gyfer fy astudiaethau a'm gwaith yn y dyfodol".

Llun: Geoff Ogden o Atkins Global a Chadeirydd ICE Cymru gyda Panagiotis Manis.