Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.
Bydd yr Athro Maurice Whitehead o'r Adran Hanes a'r Clasuron ym Mhrifysgol Abertawe a'r Canon Chris Pullin, Canghellor Eglwys Gadeiriol Henffordd yn cynnal symposiwm canol haf, ddydd Gwener 21 Mehefin, ar ddiwylliant Jeswitaidd yn y llyfrgell cenhadon Jeswitaidd mwyaf ym Mhrydain i oroesi o'r ail ganrif ar bymtheg.
Dan yr enw ‘The World is Our House': the seventeenth-century Hereford Cwm Jesuit Library in an international context, bydd y symposiwm un dydd yn Eglwys Gadeiriol Henffordd yn trafod byd cyfoethog a chyfareddol diwylliant Jeswitaidd (1540–1700).
I ddathlu'r digwyddiad, cynhelir cyngerdd gyda'r hwyr o gerddoriaeth sy'n gysylltiedig â cholegau Jeswitaidd yn y cyfnod modern cynnar, 1600 - 1750. Perfformir gwaith gan William Byrd, Tomás Luis de Victoria, Matthew Locke a Marc-Antoine Charpentier. Hefyd, ceir perfformiadau modern cyntaf rhai eitemau a ddarganfuwyd yn yr archifau yn ddiweddar.
Daeth yr Esgob Herbert Croft â'r llyfrgell i Eglwys Gadeiriol Henffordd ym 1679, ac ni thalwyd fawr o sylw iddi ers hynny. Ar hyn o bryd, mae Hannah Thomas yn archwilio'r llyfrgell yn rhan o brosiect doethurol cyffrous ar y cyd rhwng Prifysgol Abertawe ac Eglwys Gadeiriol Henffordd, a ariennir gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau.
Cafodd y symposiwm a'r cyngerdd nawdd hael oddi wrth Eglwys Gadeiriol Henffordd, Sefydliad y Jeswitiaid yn Llundain, Talaith Prydain Cymdeithas yr Iesu, Sefydliad Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau Phrifysgol Abertawe, a rhoddwr dienw.
Bydd rhaglen y symposiwm fel a ganlyn:
10.00 – Cofrestru a choffi yn Neuadd y Coleg, Eglwys Gadeiriol Henffordd
10.30 – Croeso a gosod y cyd-destun - Canon Chris Pullin, Canghellor Eglwys Gadeiriol Henffordd a'r Athro Maurice Whitehead, Prifysgol Abertawe
Panel Un: Celf, Gwyddoniaeth, a Cherddoriaeth y Jeswitiaid yn y cyfnod modern cynnar
10.45 – Y Jeswitiaid a'r Celfyddydau, 1540–1700 - Yr Athro Peter Davidson, Prifysgol Aberdeen
11.15 – Y Jeswitiaid a Gwyddoniaeth, 1540–1700 - Dr Adam Mosley, Prifysgol Abertawe
11.45 – Y Jeswitiaid a Cherddoriaeth, 1540–1750 - Dr Peter Leech, Prifysgol Abertawe
12.15 – Cwestiynau a Thrafodaeth
12.30–14.00 – Cinio Bwffe, gydag amser i weld yr arddangosfeydd o lyfrau a cherddoriaeth gynnar y Jeswitiaid, a thrysorau sanctaidd o'r Casgliadau Arbennig yng Ngholeg Stoneyhurst, Sir Gaerhirfryn, yn ogystal â Mappa Mundi Henffordd ac arddangosfa'r Llyfrgell Gadwynog.
Panel Dau: Y Jeswitiaid yng Nghymru a Lloegr tua diwedd yr unfed ganrif ar bymtheg ac yn yr ail ganrif ar bymtheg.
14.00 – Y Jeswitiaid yng Nghymru a Lloegr, 1580–1700: trosolwg - y Parchedig Dr Thomas McCoog, SJ, Prifysgol Fordham, Efrog Newydd, ac Archifydd Talaith Prydain Cymdeithas yr Iesu, Llundain
14.30 – Helen Wintour a gwneuthuriad urddwisg y Jeswitiaid yn Swydd Gaerwrangon yn yr ail ganrif ar bymtheg - Janet Graffius, Curadur Casgliadau Arbennig, Coleg Stoneyhurst
15.00 – Llyfrgell Jeswitaidd y Cwm yn Eglwys Gadeiriol Henffordd –Hannah Thomas, ymgeisydd PhD, Prifysgol Abertawe
15.30 – Cwestiynau a Thrafodaeth
16.00 – Sylwadau Cloi - Canon Chris Pullin, Canghellor Eglwys Gadeiriol Henffordd a'r Athro Maurice Whitehead, Prifysgol Abertawe
16.15 tan 17.15 – Arddangosfeydd ar agor
17.30 tan 18.15 – Cyfle i fynychu Gosber Corawl yn Eglwys Gadeiriol Henffordd, gyda cherddoriaeth ddigyfeiliant o'r ail ganrif ar bymtheg
19.30 – Cyngerdd
The World is Our House: Cerddoriaeth a gysylltir â cholegau Jeswitaidd yn y cyfnod modern cynnar, 1600–1750
Cappella Fede
Cyfarwyddwr Cerddorol – Peter Leech
Am ragor o wybodaeth ac i lawrlwytho ffurflen archebu, ewch i wefan y symposiwm: worldisourhouse.blogspot.com, e-bost: library@herefordcathedral.org, neu ffoniwch 01432 374225/6. Rhaid i bob archeb gael ei derbyn erbyn dydd Gwener, 7 Mehefin.
- Dydd Iau 30 Mai 2013 01.00 BST
- Dydd Iau 30 Mai 2013 14.18 BST
- Prifysgol Abertawe, Ffôn: 01792 295049