Prifysgol Abertawe i Lansio Arsyllfa Polisi Cyffuriau Byd-eang o Bwys

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Arsyllfa Polisi Cyffuriau Byd-eang newydd ac arloesol yn cael ei lansio ym Mhrifysgol Abertawe, yn dilyn dyfarniad o $370,000 i'r arbenigwr Dr David Bewley-Taylor gan Sefydliad y Gymdeithas Agored.

Bydd yr Arsyllfa, sydd wedi'i lleoli yn Sefydliad Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau (RIAH), yn hyrwyddo polisïau cyffuriau ar sail tystiolaeth a hawliau dynol ar lefelau cenedlaethol a rhyngwladol.

Dave Bewley-TaylorBydd yn cynhyrchu adroddiadau ar ystod eang o faterion polisi cyffuriau presennol ac sy'n dechrau dod i'r amlwg, yn datblygu gwefan/llwyfan amlgyfrwng newydd ac yn trefnu seminarau a thrafodaethau ynghylch polisi. Er enghraifft, caiff adroddiadau eu rhyddhau'r haf hwn ar y farchnad gyffuriau anghyfreithlon yng Ngorllewin Affrica a chamau tuag at gyfreithloni defnyddio canabis mewn rhai o daleithiau America.

Mae Dr Bewley-Taylor yn uwch-ddarlithydd yn yr Adran Astudiaethau Gwleidyddol a Diwylliannol. Bu'n astudio amryw agweddau ar bolisi cyffuriau ers dros ugain mlynedd a'i brif feysydd o ddiddordeb yw polisi cyffuriau'r Unol Daleithiau, polisi cyffuriau'r Cenhedloedd Unedig a pholisi cyffuriau rhyngwladol ac yn fwy diweddar strategaethau gwrthwynebu cyffuriau yn Afghanistan, maes pwnc ag aeth ag ef i Kabul yn 2012.  

Meddai Dr Bewley-Taylor:

"Mae polisïau a rhaglenni cyffuriau cenedlaethol a rhyngwladol sy'n breintio gorfodi'r gyfraith a chosbi llym mewn ymdrech i gael gwared ar dyfu, cynhyrchu, gwerthu a defnyddio sylweddau a reolir - yr hyn a adwaenir bellach fel y 'rhyfel ar gyffuriau' - yn destun archwiliadau cynyddol.

"Mae'r Arsyllfa'n ceisio hyrwyddo tystiolaeth a hawliau dynol yn seiliedig ar bolisi cyffuriau drwy'r gwaith o adrodd ar, monitro a dadansoddi datblygiadau polisi cynhwysfawr a thrwyadl ar lefelau cenedlaethol a rhyngwladol. Gan weithredu fel llwyfan i allu ymestyn allan ac ymgysylltu â chynulleidfaoedd eang ac amrywiol, mae'r gwaith yr ydym yn ei wneud yn ceisio helpu gwella soffistigeiddrwydd y ddadl bolisi bresennol ymhlith ffurfyddion barn elit yn ogystal ag o fewn cymunedau gorfodi'r gyfraith a chreu polisïau."

Cannabis
Meddai Chris Williams, Cyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau:

"Mae safle rhyngwladol Dr Bewley-Taylor yn y maes dadleuol tu hwnt hwn sy'n symud yn gyflym wedi'i arddangos drwy'r dyfarniad newydd gwych hwn. Mae'n enghraifft arall o sut y mae ymchwil ym maes y celfyddydau a'r dyniaethau yn gallu cysylltu mewn modd ystyrlon â materion a phroblemau'r gymdeithas fodern, ac o'r gwaith arloesol y mae cydweithwyr ym Mhrifysgol Abertawe yn parhau i’w wneud."