Prifysgol Abertawe – lleoliad, lleoliad, lleoliad!

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Heddiw, (Gwener, 20 Medi), mae Prifysgol Abertawe wedi datgelu'r enwau a ddefnyddir ar gyfer ei dau gampws ar ôl cwblhau'r rhaglen ddatblygu drawsnewidiol ymhen dwy flynedd.

Bydd ystâd bresennol y Brifysgol yn cael ei galw'n 'Gampws Parc Singleton', a chaiff y datblygiad newydd 65 erw oddi ar Ffordd Fabian ei alw'n 'Campws y Bae'.

Aerial Singleton Park and Bay Campus

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Mae'r rhaglen ddatblygu'n dechrau cyfnod newydd i Brifysgol Abertawe. Caiff Campws Parc Singleton a Champws y Bae eu cysylltu'n agos er mwyn tyfu hunaniaeth gref y Brifysgol, cynnal safonau profiad y myfyrwyr, a chefnogi'r ymchwil amlddisgyblaethol cynyddol a wneir ar y cyd â diwydiant ar draws y Colegau academaidd.

Dywedodd yr Athro Iwan Davies, Dirprwy Is-ganghellor: “Rydym i gyd wedi mwynhau ein campws trawiadol ym Mharc Singleton, ac rydym yn edrych ymlaen at feddiannu campws y Bae o Fedi 2015.  Y campws hwnnw fydd un o'r ychydig rai, o holl brifysgolion campws y byd, gyda mynediad uniongyrchol at y traeth, a chyda'i rodfa lan y môr ei hun. Mae hyn yn golygu y gall y Brifysgol ei marchnata ei hun yn brifysgol sydd â lleoliadau o'r ansawdd gorau mewn parc, ac ar draeth.”

Yn ogystal â'r enw newydd, caiff y Brifysgol godau post ychwanegol ar gyfer Campws y Bae – SA1 8EN, SA1 8EP.                         

Nodiadau:

  • Parc Singleton yw'r parc mwyaf yng nghanol Abertawe, ac ym 1920, Abaty Singleton oedd adeilad cyntaf Prifysgol Abertawe. Mae cynlluniau ehangu uchelgeisiol y Brifysgol yn cynnwys adfywio'r campws presennol ym Mharc Singleton, i sicrhau cyfleusterau addysg, ymchwil ac arloesi o'r radd flaenaf ar y ddau gampws.
  • Mae Prifysgol Abertawe'n gweithio'n agos â St Modwen, arbenigwyr adfywio mwyaf blaenllaw'r Deyrnas Unedig, i ddatblygu'r campws 65 erw yn y Bae. Bydd myfyrwyr, staff, ac ymwelwyr i Gampws y Bae'n mwynhau golygfa drawiadol ddi-dor ar draws Bae Abertawe tuag at Ben y Mwmbwls, Aberafan, a Margam.