Prifysgol Abertawe'n cefnogi ymchwil i ynni adnewyddadwy alltraeth

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Daeth hanner cant o ymchwilwyr ifainc sy'n gweithio ar ynni adnewyddadwy alltraeth at ei gilydd yn ddiweddar i gyfnewid eu syniadau, gyda chymorth Prifysgol Abertawe.

INORE1

Mae'r Rhwydwaith Rhyngwladol ar Ynni Adnewyddadwy Alltraeth yn fforwm arlein byd-eang i ymchwilwyr gyrfa gynnar.

Unwaith y flwyddyn, mae aelodau'r Rhwydwaith yn cwrdd i gyflwyno eu gwaith ac i ddysgu am ynni adnewyddadwy ledled y byd, gyda phwyslais penodol ar yr ardal lle cynhelir y symposiwm.

Ym mis Mai, daeth 50 aelod o'r Rhwydwaith i Sir Benfro am wythnos o areithiau allweddol, cyflwyniadau, tasgau cydweithredol, a digwyddiadau rhwydweithio.

INORE2

Rhoddodd Prifysgol Abertawe gymorth ariannol tuag at symposiwm 2013, oedd yn tynnu sylw at Gymru'n lleoliad o bwys byd-eang ar gyfer ynni adnewyddadwy.

Gobeithio y bydd y digwyddiad yn cynyddu diddordeb economaidd gweddill y byd yn yr ardal.

Mae gan Goleg Peirianneg y Brifysgol dîm penodol o staff ymchwil yn y Grŵp Ymchwil Ynni Morol yn rhan o'r Sefydliad Ymchwil Carbon Isel, sy'n gweithio gyda grwpiau academaidd, diwydiannol, llywodraethol, ac amgylcheddol o hyd a lled arfordir Cymru.

Cyflwynwyd ymchwil a wnaed gan y grŵp i'r symposiwm, yn ogystal â newyddion am ddatblygiadau cyffrous a gweithgarwch yn y sector Ynni Adnewyddadwy yng Nghymru.

Mae'r Rhwydwaith yn sefydliad nid-er-elw a reolir gan yr ymchwilwyr ifainc eu hunain, ac mae'n dibynnu ar nawdd oddi wrth ddiwydiant, y llywodraeth, a'r byd academaidd. 

Helpodd Dr Ian Cluckie, Dirprwy Is-ganghellor (Gwyddoniaeth a Pheirianneg) Prifysgol Abertawe i sicrhau cyllid am y digwyddiad, a drefnwyd gan yr ymchwilydd cynorthwyol, Hanna Buckland, o'r Grŵp Ymchwil Ynni Morol, sydd hefyd yn Is-gadeirydd y Rhwydwaith.