Prosiect Myfyrwyr sy'n Weithwyr Rhyw: Symposiwm Gwaith Rhyw a Lles

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae prosiect ymchwil Prifysgol Abertawe sy'n ceisio datblygu gwasanaethau cymorth ar gyfer myfyrwyr sy'n weithwyr rhyw yng Nghymru'n trefnu symposiwm fydd yn canolbwyntio ar waith rhyw a lles.

Mae'r digwyddiad hwn yn rhad ac am ddim, a bydd yn trafod y prif faterion sy'n effeithio ar iechyd a lles myfyrwyr wy'n weithwyr rhyw. Fe allai fod o ddiddordeb i bobl sy'n gweithio gyda gweithwyr rhyw, ymarferwyr iechyd rhywiol, gwasanaethau cymorth myfyrwyr, a chynrychiolwyr undebau myfyrwyr.

Dyddiad: Mercher 1 Mai 2013

Amser: 2pm – 4.30pm

Lleoliad: Darlithfa - Glyndŵr E, Prifysgol Abertawe

Student Sex Work projectY siaradwyr fydd:

  • Dr Tracey Sagar: Prif Ymchwilydd 'Prosiect Myfyrwyr sy'n Weithwyr Rhyw' Prifysgol Abertawe - Meeting the safety needs of student sex workers: cross sector collaboration and referral mechanisms
  • Sam Geuens: Rhywolegwr Clinigol, Cymdeithas Rhywoleg Fflandrys - Gwlad Belg. Sex work and sexual well-being: sexual boundaries and implications for sex workers and health professionals.
  • Becky Adams: Ymgynghorydd Annibynnol Gwaith Rhyw - Motivations and need: promoting learning and understanding about young people engaged in the sex markets
  • Yr Athro Chris Morris: Ysgol Ffilm Casnewydd - The complexities of sex work: challenges for creative dissemination

I gofrestru ar gyfer y digwyddiad hwn, cysylltwch â Phrosiect Myfyrwyr sy'n Weithwyr Rhyw ccjc-sswp@swansea.ac.uk gan roi'ch enw, manylion cyswllt, a manylion eich sefydliad.

Am ragor o wybodaeth:

Twitter: @TSSWP neu cewch ymuno â'n grŵp Facebook ar  facebook.com/thestudentsexworkproject

I siarad â thîm y prosiect yn gyfrinachol, ewch i www.thestudentsexworkproject.co.uk