Seminar Ymchwil Ysgol y Gyfraith mewn cydweithrediad â Sefydliad Ymchwil Hywel Dda

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Teitl y Ddarlith: Diffinio Pwerau Deddfu’r Cynulliad - Cwpan Hanner Llawn neu Gwpan Hanner Gwag?

Siaradwyr:  Mr Keith Bush (Cyn-Brif Gynghorwr Cyfreithiol, Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Chymrawd Ymchwil Mygedol, Sefydliad Ymchwil Hywel Dda) a’r Athro Timothy Jones, Athro mewn Cyfraith Gyhoeddus, Ysgol y Gyfraith, Prifysgol Abertawe a Chyd-gyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Hywel

Dyddiad: Dydd Mercher, 20 Chwefror 2013

Amser: 1.00yp

Lleoliad: Ystafell Eirioli, Ysgol y Gyfraith, Adeilad Richard Price, Prifysgol Abertawe

Mynediad: Am ddim a chroeso cynnes i bawb

Crynodeb o’r digwyddiad:

Y mae’r Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru (Comisiwn Silk) wedi ei sefydlu i adolygu’r drefn gyfansoddiadol ac ariannol presennol yng Nghymru. Ac yntau wedi cyhoeddi ei adroddiad cyntaf ar bwerau ariannol, mae’r Comisiwn nawr wedi cychwyn gweithio ar Ran II ei gylch gorchwyl, sef adolygu pwerau Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Felly, bydd y seminar hwn yn gyfraniad amserol i’r drafodaeth ar gymhwyster deddfu Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

I ddilyn, bydd trafodaeth banel wedi ei chadeirio gan Yr Athro R Gwynedd Parry (Athro Cyfraith a Hanes Cyfreithiol a Chyd-gyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Hywel Dda).