'Tîm cipio'r golau' yn ysbrydoli ieuenctid Cenedl yr Enfys

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae tîm o wyddonwyr o Brifysgolion Abertawe a Bangor wedi dychwelyd o daith unwaith mewn oes yn helpu plant De Affrig i archwilio byd cyffrous cemeg, golau, a lliw.

Roedd y gwyddonwyr o Gymru'n gweithio gyda Phrifysgol ZwaZulu-Natal i gynnal gweithdai gwyddoniaeth ymestyn allan ar gyfer dros 1300 o blant. Nod prosiect "Cipio'r Golau gyda Chenedl yr Enfys" oedd cynyddu poblogrwydd cemeg, a'r ddealltwriaeth ohoni, yn Mafikeng a Durban, yn Ne Affrig.

Aeth arweinydd y prosiect, Dr Matthew Lloyd Davies, sy'n Gymrawd Trosglwyddo Technoleg gyda phrosiect SPECIFIC (sef Y Ganolfan Beirianneg Cynnyrch Cynaliadwy ar gyfer Caenau Diwydiannol Gweithredol Arloesol), â thîm o 15 o wyddonwyr o Gymru a De Affrig. Ariannwyd y prosiect gan SPECIFIC, consortiwm academaidd a diwydiannol dan arweiniad Prifysgol Abertawe gyda Tata Steel yn brif bartner diwydiannol, a ariennir gan y Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol, y Bwrdd Strategaeth Technoleg a Llywodraeth Cymru. Mae'r digwyddiad hefyd wedi'i gefnogi gan y Gymdeithas Gemeg Frenhinol.

Roedd y tîm wedi gweithio gyda'r elusen, SOS Affrica, i gynnal y gweithdai. Mae SOS Affrica'n ariannu addysg a gofal y plant tlotaf o drefgorddau Mafikeng, De Affrig. Ethos yr elusen yw "grymuso trwy addysg".

Dywedodd Dr Davies, sy'n hanu o Gastell-nedd ac yn gweithio ym Mhrifysgol Bangor: "Roedd y prosiect yn hynod o uchelgeisiol, gan gynnal gweithdai i dros 1300 o blant mewn cyfnod o bythefnos.

"Ar ben hynny, trefnodd y tîm ddarlithoedd cyhoeddus a grwpiau trafod mewn ysgolion; a chafwyd prynhawn o ddysgu cemeg i blant hyfryd sy'n cael cymorth gyda'u haddysg gan yr elusen, SOS Affrica."

Rainbow nation kids 2

Yn Durban, defnyddiwyd labordai'r Ysgol Cemeg a Ffiseg (Prifysgol UKZN) i gynnal gweithdai i blant o'r ysgolion uwchradd lleol ar sut i wneud celloedd solar wedi'u sensiteiddio gan liwur, o ffrwythau a defnyddiau cyffredinol.

‌‌Wedyn, aeth y tîm ar daith hir trwy Fynyddoedd Drakensburg i Mafikeng, lle cafwyd wythnos lawn cynnwrf yn cynnal gweithdai i tua 1,000 o blant o ddwy ysgol uwchradd wahanol yn yr ardal, sef Ysgol Uwchradd Golfview ac Ysgol Uwchradd Mafikeng, yn ogystal â threfnu'r Ganolfan Dysgu Cynnar i blant o 1 i 6 oed.

Rainbow nation kids

Dywedodd Dr Davies: "Trefnwyd y gweithdai yma gan Henry a Jenny Matthews, sy'n rhedeg ochr De Affrig yr elusen SOS Affrica.

"Roedd hyn yn rhoi cyfle i'r tîm, yn yr ychydig amser rhwng rhedeg gweithdai, weld y gwaith rhagorol y mae'r elusen yn ei wneud, a sut mae'n grymuso plant trwy addysg a chariad, a thrwy greu amgylchedd dysgu diogel i blant difreintiedig ym Mafikeng."

 

Roedd y tîm wedi rhoi rhodd o offer chwaraeon ac offer ysgol hefyd.

Ychwanegodd Dr Davies: "Roedd yn brofiad gwych.  Roedd yr holl blant a ddaeth i'r gweithdai'n astud ac yn frwd, ac roeddent yn gwerthfawrogi'r hyn yr oeddem yn ei wneud.

"Y prif amcan oedd ysbrydoli'r plant i gymryd mwy o ddiddordeb mewn gwyddoniaeth, ac o'r adborth a gawsom, dwi wir yn teimlo ein bod wedi cyflawni hynny.

"Rwy'n gobeithio (ac mae'r holl dîm yn gobeithio) y bydd rhai o'r plant hyn yn mynd ymlaen i ddarganfod byd rhyfeddol a chyffrous cemeg a gwyddoniaeth, ac i gael bywydau a gyrfaoedd hapus a llwyddiannus."

Ymhlith y sylwadau a wnaed am y daith yw:

Albert Landman, Pennaeth Ysgol Uwchradd Mafikeng:

"...Byddwn i'n dweud yr oedd yn brofiad da. Efallai y bydd eich rhaglen yn sbarduno ychydig o wyddonwyr rhagorol! Diolch unwaith yn rhagor am eich ymdrechion. Roedd y myfyrwyr wir yn mwynhau, ac roeddem ni'n mwynhau eich presenoldeb yma. Dymuniadau gorau oll am eich gwaith a'ch rhaglen i wella pethau yn Affrica."

Wilma Store, Pennaeth Ysgol Uwchradd Golfview:

 "Mwynhad, cymhelliad, ysbrydoliaeth. Byddan nhw (pobl Mafikeng) i gyd yn edrych ar wyddoniaeth o'r newydd, hyd yn oed yr athrawon. Pleser oedd eich croesawu yma."

Henry Matthew, llywydd SOS Affrica:

"Roedd y grŵp 'Cipio'r Golau' yn anhygoel - grŵp o bobl hyfryd, ac yn glod i'r proffesiwn o'u dewis! Daeth gwyddoniaeth yn fyw i dros 1000 o blant ysgol yn ystod y pythefnos diwethaf."

Mae'r gwyddonwyr o Gymru wedi llunio fideo o'r daith lwyddiannus - gellir ei weld yma: http://youtu.be/phSicbuJdh0

Cewch weld lluniau o'r ymweliad yn oriel Flickr Prifysgol Abertawe yn: http://tinyurl.com/lo2mb2z