Tîm Gwasanaethau Myfyrwyr y Brifysgol ar y rhestr fer am Wobr Addysg Uwch

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Tîm Gwasanaethau Myfyrwyr Phrifysgol Abertawe wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Addysg Uwch y 'Times Higher' (THE), yn erbyn cystadleuwyr cryf eraill.

Student services generic pic2

Mae tîm Abertawe wedi cyrraedd y rhestr fer am y wobr Tîm Gwasanaethau Myfyrwyr Neilltuol yng Ngwobrau Arweinyddiaeth a Rheoli 2013 y 'THE'. Mae'r gwobrwyon yn cydnabod ymroddiad, sgil, a phenderfyniad y staff sy'n gweithio i yrru eu sefydliadau yn eu blaen mewn cyfnod heriol a llawn newid anrhagweladwy.

Cyhoeddir enillwyr y 15 gwobr wahanol mewn seremoni fawreddog yng Ngwesty Grosvenor House yn Llundain ar 20 Mehefin.

 

Dywedodd Sarah Huws-Davies, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Myfyrwyr: "Dwi'n falch bod y THE yn cefnogi'r gwobrau hyn sy'n cydnabod ymroddiad staff yn y sector Addysg Uwch. Mae'r ceisiadau bob amser o safon eithriadol o uchel, ac mae cyrraedd y rhestr fer yn gyflawniad sylweddol ynddo'i hun. Dwi'n falch o'r holl staff ac o'r gwasanaethau rhagorol maen nhw'n eu darparu. Dwi'n siŵr y bydd pawb ym Mhrifysgol Abertawe yn ein cefnogi ac yn gwaeddu drosom ar y noson."