"Trawiadol Dros Ben" - Delweddau ymchwil Abertawe i'w harddangos yn y Sefydliad Brenhinol yn Llundain

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae'r Sefydliad Brenhinol yn Llundain, un o sefydliadau cyfathrebu ac ymchwil gwyddonol disgleiriaf y byd, lle gweithiodd Syr Humphrey Davy ar ei Lamp Glöwr, a lle gwnaeth Michael Faraday ei waith arloesol ar drydan, yn cynnal arddangosfa arbennig o'r lluniau a gyflwynwyd gan ymchwilwyr Prifysgol Abertawe i'r gystadleuaeth 'Ymchwil fel Celf'.

Bydd y delweddau'n cael eu harddangos yn adeilad y Sefydliad Brenhinol ym Mayfair rhwng 7 Ionawr ac 8 Chwefror 2013. Cânt eu harddangos yng ngofod arddangos atriwm y Sefydliad, wrth ochr labordy gwreiddiol Michael Faraday, lle cynhaliodd ei arbrofion ar electromagnetedd. Mae'r adeilad ar agor i'r cyhoedd.

 Mae 'Ymchwil fel Celf' yn gystadleuaeth ar gyfer ymchwilwyr ar draws Prifysgol Abertawe, sydd wedi'i chynnal ers tair blynedd bellach. Rhaid i ymgeiswyr gyflwyno delweddau a ysbrydolwyd gan ymchwil, neu sydd wedi ysbrydoli ymchwil.

 Mae Dr Richard Johnston, uwch-ddarlithydd yng Ngholeg Peirianneg Prifysgol Abertawe yn trefnu'r gystadleuaeth, a gefnogir gan y rhaglen 'Pontio'r Bylchau'. Dywedodd Dr Johnston:

 "Rydym wrth ein boddau o gael y cyfle hwn i ddangos gwaith ymchwil Abertawe yng nghanol Llundain, mewn un o sefydliadau ymchwil mwyaf blaenllaw'r byd. Mae'n gyfle i ni rannu harddwch ac amrywiaeth yr ymchwil a wneir yma ym Mhrifysgol Abertawe gyda chynulleidfa eang iawn.

Dywedodd Dr Gail Cardew, Cyfarwyddwr Gwyddoniaeth ac Addysg y Sefydliad Brenhinol:

"Yn un o feirniaid y gystadleuaeth Ymchwil fel Celf, roeddwn i'n teimlo y dylai mwy o bobl gael cyfle i weld y delweddau. Mae rhai ohonynt yn drawiadol ynddynt eu hunain, ond mae harddwch hefyd yn y ffaith eu bod wedi'u cyfuno â naratif sy'n esbonio'r gwaith ac yn ei osod yn ei gyd-destun."

"Y canlyniad yw casgliad o ddelweddau sydd ag apêl y tu hwnt i'r cylch gwyddonol arferol. Mae pleser mawr yn aros ymwelwyr i'r Sefydliad yn ystod y mis nesaf, yn sicr."