Y Dywysoges Anne yn ymweld ag Abertawe

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Chwaraeon Dŵr oedd thema'r diwrnod pan ymwelodd y Dywysoges Anne â Phrifysgol Abertawe.

Princess Anne visit 2Yn gyntaf oll, aeth y dywysoges i Bwll Cenedlaethol Cymru, gan gymryd amser i gwrdd â rhai o'r nofwyr ifainc.

 

 

 

 

Princess Anne visit 3Wedyn, aeth am dro ar lan y môr, gan ymweld â 360, y Ganolfan Chwaraeon Traeth a Dŵr - cyfleuster chwaraeon traeth a dŵr pennaf Abertawe lle - dadorchuddiodd blac i gofnodi pen-blwydd cyntaf y ganolfan.

Rheolir y ganolfan ar y cyd gan Brifysgol Abertawe a Bay Leisure Ltd, ac mae wedi denu dros 120,000 o ymwelwyr yn ei blwyddyn gyntaf.  Mae'n estyn croeso i ddechreuwyr a chwaraewyr profiadol, ac mae'n cynnwys ystod o chwaraeon gan gynnwys caiacio, padl-fyrddio sefyll i fyny, pêl-foli'r traeth, a thenis.

Princess Anne visitRoedd y dywysoges yn gwylio chwaraewyr pêl-foli wrth iddynt drio cwrt pêl-foli Gemau Olympaidd Llundain 2012, sydd bellach yn eiddo i'r Ganolfan. Fe'i rhoddwyd i'r Ganolfan trwy Bêl-foli Cymru, yn rhan o raglen etifeddiaeth Llundain 2012.