Anrhydedd arall i’r Brifysgol yn Arolwg Myfyrwyr y Times Higher Education

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Cafwyd rhagor o newyddion da ym Mhrifysgol Abertawe heddiw (dydd Iau, 15 Mai) wrth i’r Times Higher Education gyhoeddi canlyniadau’r Arolwg Myfyrwyr – cipiodd y Brifysgol y 27ain safle (i fyny o safle 42 y llynedd).

Yn ogystal, cipiodd y Brifysgol y pedwerydd safle ar y rhestr o’r prifysgolion sy’n cynnig y bywyd cymdeithasol orau.

Mae’r Arolwg blynyddol yn edrych ar safon staff/ darlithwyr, darpariaeth cyrsiau, cysylltiadau da gyda diwydiant, amgylchfyd da ar y campws, a bywyd cymdeithasol da.

Students outside Fulton House Daw hyn yn yr un wythnos lle bu’r Brifysgol yn dathlu’r newyddion ei fod wedi symud i fyny o safle 48 i 42 yn The Complete University Guide 2015 (a gyhoeddwyd dydd Llun 12 Mai).

Ar ddydd Mawrth (13 Mai), enwyd Prifysgol Abertawe fel prifysgol gorau’r DU yng ngwobrau’r What Uni 2014, gwobrau sy’n cael eu cyflwyno yn sgil pledleisiau myfyrwyr yn y DU.  

Hefyd wedi’i enwebu mewn tri chategori arall yn y gwobrau, daeth  Prifysgol Abertawe yn ail yn y DU yng nghategori’r Cyrsiau a Darlithwyr Gorau a chategori’r  Undeb Myfyrwyr Gorau, ac yn drydedd yn y categori Clybiau a Chymdeithasau Gorau.

Meddai’r Athro Richard b. Davies, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe: “Am wythnos!  Mae staff a myfyrwyr y brifysgol eisoes yn ymwybodol o ba mor arbennig mae’r brifysgol, ond mae derbyn y math yma o wobrau ac anrhydeddau yn cadarnhau bod y Brifysgol yn parhau i fynd o nerth i nerth.

 “Mae’r nifer o fyfyrwyr sy’n ymgeisio i ddod i astudio ym Mhrifysgol Abertawe wedi cynyddu’n sylweddol yn ystod y ddwy flynedd diwethaf, ac mae canlyniadau’r wythnos hon yn adlewyrchiad pam fod poblogrwydd Abertawe yn cynyddu ymhlith myfyrwyr o Gymru, gweddill y DU, a myfyrwyr rhyngwladol.

“Rydym yn hyderus y byddwn yn cyflawni ein huchelgais i fod yn y 30 prifysgol gorau yn y DU erbyn 2017, cyn i ni ddathlu’n canmlwyddiant yn 2020”.