Arweinwyr busnes a chynrychiolwyr y llywodraeth yn lansio cynllun lleoliad gwaith Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe wedi datgelu ei chynlluniau lleoliad gwaith newydd mewn cyfarfod o arweinwyr busnes o ledled y Deyrnas Unedig. Noddwyd y digwyddiad gan Julie James AC, ac fe'i cynhaliwyd yn y Senedd yng Nghaerdydd. Bu'n gyfle i rwydweithio yn ogystal â chlywed am y fenter gyffrous newydd.

Cynhelir ail ddigwyddiad lansio ym Mhont y Tŵr, Llundain, ar 28 Ionawr. 

Mae'r Ysgol Reolaeth yn un o ddarparwyr gorau'r Deyrnas Unedig o ymchwil ac addysg ym meysydd rheolaeth, cyllid, ac economeg. O haf 2014 ymlaen, bydd pob myfyriwr israddedig yn cael cyfle i wneud lleoliad gwaith yn rhan o'i radd.

Nigel Piercy work placement scheme launch

Yn ogystal â gwella cyflogadwyedd a phrofiad y myfyrwyr, mae cynnig lleoliadau gwaith yn rhan o strategaeth yr Ysgol i sefydlu partneriaethau hirdymor â busnesau ar draws y Deyrnas Unedig. Trwy'r cysylltiadau hyn, mae'r Ysgol yn gobeithio newid a gwella dulliau gweithredu busnesau a'r ffordd y'u rheolir yn sylfaenol. Meddai'r Athro Nigel Piercy, Deon yr Ysgol Reolaeth: "Mae llwyddiant cynyddol a gwych ein prifysgol, datganiadau'r llywodraeth, profiad cadarnhaol cyflogwyr o'r math hwn o ymgysylltu, a'r effaith ar fyfyrwyr - gan newid cwrs eu bywydau - i gyd yn ffactorau sy'n gwneud achos anorchfygol dros gydweithredu i gynnig lleoliadau gwaith."

Juan Salguero

Roedd y digwyddiad yn y Senedd yn cynnwys cyflwyniadau gan Is-ganghellor Prifysgol Abertawe, gan Julie James AC, a chan staff eraill o'r Ysgol Reolaeth. Hefyd, cafodd DTR Medical, un o bartneriaid presennol Abertawe, gyfle i wneud cyflwyniad. Siaradodd y Rheolwr Gyfarwyddwr, Andrew Davidson, am y llwyddiant y mae yntau wedi'i gael gyda myfyrwyr ar leoliad o Brifysgol Abertawe, a sut y cynigiwyd swyddi i'r rhai mwyaf llwyddiannus. Yn olaf, roedd un o gyn-fyfyrwyr yr Ysgol Reolaeth, Juan Salguero, yn siarad am ei lwyddiant yntau yn sgil lleoliad gyda Chlwb Pêl-droed Dinas Abertawe, lle mae bellach yn cael ei gyflogi'n raddedig.

Mae'r Ysgol bellach yn chwilio am gyfleoedd lleoliad i gychwyn yn yr haf 2014, ac yn gobeithio y bydd mwyafrif y myfyrwyr israddedig allan ar leoliad erbyn 2016.

Am ragor o wybodaeth am yr ail ddigwyddiad lansio a gynhelir ym Mhont y Tŵr yn Llundain ar 28 Ionawr neu am y cynlluniau lleoliad gwaith yn gyffredinol, anfonwch neges at somplacements@abertawe.ac.uk neu ffonio 01792 295 177.

Llun: Yr Athro Nigel Piercy, Deon yr Ysgol Reolaeth ym Mhrifysgol Abertawe, yn siarad yn lansiad y cynlluniau lleoliad gwaith yn y Senedd yng Nghaerdydd. 

Llun: Juan Salguero gydag Andrew Davidson, MD o DTR Medical