Business Finance – the basics

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Ydych chi'n fusnes bach a chanolig (BBaCh) neu'n cychwyn busnes TGCh neu wyddorau bywyd Cymreig?

Mae Deorfa Rithwir Genedlaethol Cymru (NVI Cymru) yng Nghanolfan Arloesi Diwydiannau E-iechyd (ehi²) y Brifysgol, yn cynnal sesiwn mentora rhad ac am ddim i’ch helpu chi i reoli cyllid busnes er mwyn sicrhau tyfiant a llwyddiant eich busnes.


Teitl y digwyddiad: Business Finance – the basics

Siaradwr: Alison Vickers, Partner yng nghwmni Cyfrifwyr Siartredig Bevan & Buckland. 


Dyddiad: Dydd Iau, 27 Mawrth 2014

Amser: 12pm – 1.15pm

Lleoliad: Labordy GIG, Llawr cyntaf, Adeilad 2, Sefydliad Gwyddor Bywyd, Prifysgol Abertawe

Pris mynediad: Mynediad am ddim, ond rhaid archebu’ch lle ymlaen llaw. Darperir cinio bwffe am ddim. ___________________________________________________________________________________

Alison Vickers, Partner yng nghwmni Cyfrifwyr Siartredig Bevan & Buckland, fydd yn arwain y sesiwn mentora ac yn trafod hanfodion:

  • Deall cyfrifon
  • Gosod targedau ariannol
  • Llif arian a chyfalaf gweithio
  • Proffidioldeb
  • Gerio a Hylifedd

Bydd deall hanfodion cyllid busnes yn eich helpu i reoli'ch busnes yn dda, p'un ai eich bod am ddechrau busnes neu eisoes yn masnachu.  Bydd y sesiwn hon yn rhoi cyngor i chi ar ddeall yr agweddau mwyaf pwysig ar reoli eich busnes eich hun. 


Amserlen:

12.00pm: Cyrraedd, rhwydweithio, cinio bwffe

12.30pm: Sut i reoli cyllid busnes

1.00pm: Cyfle i holi cwestiynau

1.15pm: Sesiwn mentora yn dod i ben

Rhaid archebu’ch lle ymlaen llaw. Cliciwch yma i gofrestru: http://www.eventbrite.co.uk/e/managing-your-finances-mentor-session-for-lifescience-ict-startups-smes-tickets-10309525067


Os ydych chi’n BBaCh yng Nghanolbarth, Gorllewin neu Ogledd Cymru gallwch wylio’r digwyddiad ar ffrwd byw.

I gofrestru ar gyfer y ffrwd byw, e-bostiwch: NVIWales@swansea.ac.uk neu ffoniwch 01792 295627.

Trefnir y sesiwn mentora hwn gan Ganolfan Cymru'r Ddeorfa Rithwir Genedlaethol a chaiff ei ddarparu gan Gyfrifwyr Siartredig Bevan & Buckland.