Cyfres Darlithoedd Diwinyddiaeth Cyhoeddus

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Traddodir y ddarlith nesaf yng nghyfres darlithoedd diwinyddiaeth cyhoeddus Prifysgol Abertawe gan yr Arglwydd Harries o Bentregarth.

Lord Harries of Pentregarth Sefydlwyd y Rhaglen Darlithoedd Cyhoeddus mewn Diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Abertawe gan y Parchedig Nigel John, Uwch Gaplan yn y Brifysgol ac mae wedi cynnwys arweinwyr eglwys o fri rhyngwladol ac academyddion blaenllaw o ledled y byd, sydd wedi siarad ar ystod o wahanol destunau.

Teitl y Ddarlith: ‘Celf  Fodern – Gelyn Ynteu Gyfaill Celf Grefyddol?’

 

Siaradwr: Yr Arglwydd Harries o Bentregarth

Dyddiad: Dydd Iau 30 Hydref 2014

Amser: 7.00pm

Lleoliad: Darlithfa Faraday ‘A’, Prifysgol Abertawe

Mynediad: Mynediad am ddim, croeso i bawb

Dyma’r ddarlith gyntaf yng nghyfres Darlithoedd Diwinyddiaeth Cyhoeddus 2014/15 Prifysgol Abertawe ar y cyd â Chymdeithas Ddysgedig Cymru.

Roedd yr Arglwydd Harries o Bentregarth yn Esgob Rhydychen rhwng 1987 – 2006.

Am ragor o wybodaeth, ffoniwch 01792 606444 neu Ebost: n.john@abertawe.ac.uk