Cyllid Cymru yn cynnig mwy o gymorth i fentrau technoleg yn Abertawe drwy gytundeb strategol newydd gyda Phrifysgol Abertawe

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Cyllid Cymru a Sefydliad Gwyddor Bywyd Prifysgol Abertawe wedi llofnodi cytundeb newydd a fydd o fudd i fusnesau technoleg lleol yn ogystal รข'r rhai sy'n dymuno ymsefydlu yn Abertawe.

ILSBydd y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn hwb i'r cydweithredu rhwng y sefydliadau ac yn adeiladu ar eu perthynas hirdymor.

Mae cwmnïau deillio o Brifysgol Abertawe eisoes yn manteisio ar Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth Cyllid Cymru gan Fusion IP yn ymrwymo iddo yn 2013. 

Yn sgil Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth tebyg gyda Fusion IP ar gyfer cwmnïau deillio o Brifysgol Caerdydd, mae Cyllid Cymru wedi buddsoddi £6 miliwn mewn chwe chwmni deillio Fusion yng Nghaerdydd er 2007.

Adeiladwyd y Sefydliad Gwyddor Bywyd yn bwrpasol yn 2008 a dyma fuddsoddiad mwyaf Llywodraeth Cymru mewn campws yng Nghymru hyd yma. Mae'n cynnwys cyfleuster deori i fusnesau bach yn ogystal â chyfleusterau ymchwil lle mae dros 200 o ymchwilwyr yn gweithio ar hyn o bryd. 

Cred Steve Smith, Cyfarwyddwr Buddsoddiadau Menter Technoleg  Cyllid Cymru, y bydd y cytundeb newydd yn cynnig manteision sylweddol i fusnesau technoleg lleol.  Meddai: "Mae Cyllid Cymru yn un o’r buddsoddwyr mwyaf blaenllaw mewn mentrau technoleg ac rydym wedi cefnogi nifer o gwmnïau deillio o brifysgolion Cymru drwy Gronfa JEREMIE Cymru. Mae'r cytundeb hwn yn cryfhau ein perthynas â'r Brifysgol a'r Sefydliad Gwyddor Bywyd ac mae'n canolbwyntio ar ystod o weithgaredd cydweithredol a fydd o fudd i fusnesau lleol uchelgeisiol.

"Mae'r Sefydliad yn gartref i nifer o fusnesau uwch-dechnoleg Cymreig y dyfodol.  Yma caiff technoleg a allai fod yn arloesol ei datblygu a'i masnacheiddio, a diolch i'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth, gallwn weithio'n agosach â'r busnesau ifanc hyn yn awr.  Mae cael cefnogaeth buddsoddwr lleol hirdymor yn fantais sylweddol.  Byddwn yn gallu rhannu ein gwybodaeth a'n harbenigedd a hefyd eu cyflwyno i'n rhwydwaith o gynghorwyr, cyd-fuddsoddwyr a gweithwyr proffesiynol eraill yn y maes buddsoddi."

Mae gan y Sefydliad nod uchelgeisiol o ddatblygu gwyddor feddygol drwy arloesedd ac ymchwil gan sicrhau manteision i'r economi leol ac i economi Cymru.

Gan groesawu'r cytundeb, meddai'r Athro Marc Clement, Cadeirydd Gweithredol y Sefydliad Gwyddor Bywyd: "Rydym yn falch iawn o fod wedi sefydlu'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hwn rhwng Cyllid Cymru a Phrifysgol Abertawe. Mae Cyllid Cymru yn sefydliad a chanddo record lwyddiannus o fuddsoddi mewn technolegau newydd, gyda nifer cynyddol ohonynt ym maes gwyddor bywyd.

"Yn ogystal, mae Cyllid Cymru yn fuddsoddwr doeth, gan ychwanegu gwerth drwy gyflwyno rhwydwaith gwerthfawr sy'n arbenigo mewn busnesau newydd a BBaCh, ac mae hyn yn hanfodol i gynnal cwmnïau ifanc."

Buddsodda Cyllid Cymru mewn cwmnïau deillio a mentrau technoleg twf uchel o Gronfa JEREMIE Cymru a gall eu cefnogi gyda nifer o gylchoedd buddsoddi wrth iddynt ddatblygu a masnacheiddio eu technoleg.   

Bu cyfalaf buddsoddi gan Cyllid Cymru yn hanfodol o ran denu nifer o fentrau technoleg twf uchel fel Clinithink a Creo Medical i Gymru.

Yn y flwyddyn ariannol 2012 - 13 buddsoddodd Cyllid Cymru £9 miliwn o gyfalaf sbarduno a thwf mewn busnesau technoleg twf uchel a chanddynt gyfoeth o eiddo deallusol.  Er 2009, mae wedi buddsoddi bron £28 miliwn mewn 30 o gwmnïau menter technoleg yng Nghymru.

Y Sefydliad Gwyddor Bywyd yw cyfleuster ymchwil meddygol cyntaf Cymru sydd wedi'i adeiladu'n bwrpasol. Mae'n brosiect ar y cyd rhwng Coleg Meddygaeth Prifysgol Abertawe a Llywodraeth Cymru, ynghyd â Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, IBM a phartneriaid ym myd diwydiant a busnes.