Darlith Gyhoeddus yr Ŵyl Ymchwil - Poetry of Memoir: Testimonial of a Female Holocaust Survivor

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae'r ddarlith gyhoeddus hon am ddim, ac mae'n rhan o drydedd Ŵyl Ymchwil flynyddol Prifysgol Abertawe, a gynhelir rhwng dydd Mercher 19 Chwefror a dydd Sadwrn 22 Chwefror.

Fragments2Teitl: “Poetry of Memoir: Testimonial of a Female Holocaust Survivor”

Siaradwr:  Frances Rapport, Athro Ymchwil Iechyd Ansoddol ym Mhrifysgol Abertawe ac awdur ‘Fragments: Transcribing the Holocaust’


Dyddiad: Dydd Sadwrn, 22 Chwefror, 2014

Amser: 12.15pm – 1.30pm

Lleoliad:  Canolfan Celfyddydau Taliesin  

Mynediad: Mae mynediad am ddim ac nid oes angen archebu ymlaen llaw. Croeso i bawb.


Crynodeb o'r ddarlith: Dyfyniad enwog gan yr athronydd Theodor Adorno yw: ‘To write poetry after Auschwitz is barbaric’. Yn y cyflwyniad hwn, cyflwynir y ddadl heriog bod barddoniaeth gan oroeswyr yr Holocost yn cynnig mynediad arbennig at rywbeth sydd y tu hwnt i ddisgrifiad rhyddieithol a dadansoddiad.

Proses ddarniog fydd trawsgrifio'r Holocost, o reidrwydd. Mae'r profiadau eu hunain yn annealladwy, ac yn amhosib eu mynegi mewn iaith. Bydd yn cyflwyno bywyd Anka Bergman, a oroesodd yr Holocost ac a ddaeth i Gymru, a chewch eich gwahodd i ystyried ei thrawma, ei chadernid, ei dewrder, ac unigolrwydd ei hewyllys mewn camau petrusgar, darniog, barddonol.


Gwybodaeth am y siaradwr: Mae Frances Rapport yn Athro Ymchwil Iechyd Ansoddol ym Mhrifysgol Abertawe.  Mae'n Gyfarwyddwr yr Uned Ymchwil Ansoddol, ac yn arwain 'Ymchwil Ansoddol i Gefnogi Treialon' yn y Coleg Meddygaeth. Mae Frances Rapport yn Athro Ymweld yn yr Unol Daleithiau, yn Saudi Arabia, yn Norwy, ac yn Lloegr.


Am ragor o wybodaeth ynglŷn â Gŵyl Ymchwil Prifysgol Abertawe, gan gynnwys y rhaglen ddigwyddiadau yn llawn, ewch i http://www.swansea.ac.uk/cy/ymchwil/gweithgarwch/ryngddisgyblaethol/gylymchwil, neu gysylltu ag Andrea Buck ar 01792 606669, e-bost: a.j.buck@abertawe.ac.uk

Am ragor o wybodaeth am ymchwil diweddaraf Prifysgol Abertawe, ewch i www.swansea.ac.uk/cy/ymchwil/.