Darlithwyr Prifysgol Abertawe yn ymddangos yng nghyfres newydd Corff Cymru ar S4C

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd Dr Gethin Thomas, darlithydd Sŵoleg y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yng Ngholeg Gwyddoniaeth Prifysgol Abertawe, a Dr Anwen Mair Rees, darlithydd Ffisioleg ac Iechyd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn ymddangos yng nghyfres newydd Corff Cymru ar S4C.

Yn dilyn llwyddiant y gyfres gyntaf cafodd ei ddarlledu y llynedd, bydd yr ail gyfres o Corff Cymru yn cychwyn am 7.30pm, nos Fercher, 3 Medi.

Dr Jones fydd yn cyflwyno’r gyfres chwe rhan unwaith eto eleni, ac y tro hwn, synhwyrau’r corff dynol fydd dan y chwyddwydr, lle bydd Dr Thomas yn defnyddio’i arbenigedd i gymharu synhwyrau’r corff dynol gyda synhwyrau anifeiliaid.

Dr Gethin Thomas Small Meddai Dr Thomas (chwith): “Yn ystod y gyfres, byddaf yn esbonio’r gwahaniaeth rhwng synhwyrau pobl a synhwyrau gwahanol fathau o anifeiliaid, gan gymharu’r tebygrwydd sydd rhwng synhwyrau pobl ac amryw o anifeiliaid, ond hefyd y synhwyrau unigryw sydd i’w canfod ym myd natur, megis synhwyro cryfder meysydd magnetig a synhwyro trydan”.

"Rwyf wedi ymddiddori mewn gwyddoniaeth erioed” meddai Dr Thomas, a ddaw yn wreiddiol o Rydaman  ond sydd nawr yn byw yn Abertawe. "Mae cymryd rhan yng nghyfres Corff Cymru wedi fy nghaniatáu i adeiladu ar y gwaith rwy’n gwneud o ddydd i ddydd ym maes sŵoleg ym Mhrifysgol Abertawe, ac wedi cynnig cyfle gwych i mi allu adlewyrchu’r gwaith hynny i gynulleidfa eang S4C”.

Meddai Catrin Hughes Roberts, Pennaeth Partneriaethau S4C: “Mae’n braf bod y fath arbenigedd wrth law yng Nghymru wrth i S4C gyflwyno gwyddoniaeth mewn ffordd ddifyr ac awdurdodol. Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, rydym wedi darlledu nifer o gyfresi sy’n rhoi sylw i wyddonwyr o Gymru sydd wedi torri tir newydd ym maes ymchwil gwyddonol.”

Darlledir y bennod gyntaf o Corff Cymru ar nos Fercher, 3 Medi am 7.30pm, a bydd y gyfres ar gael i’w gwylio eto ar S4Clic am 35 diwrnod.