Darlithydd y Brifysgol yn lansio’i gyfrol gyntaf o gerddi

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd y Bardd Cadeiriol, Dr Llŷr Gwyn Lewis, sy’n Ddarlithydd y Gymraeg yn Academi Hywel Teifi, yn lansio’i gyfrol gyntaf o gerddi yn siop lyfrau Palas Print, Caernarfon, ddydd Sul, 4 Mai.

Mae Storm ar Wyneb yr Haul (Cyhoeddiadau Barddas) yn gofnod o gyfnod penodol, gyda nifer o donnau'n llifo drwyddo, o Gaernarfon i Gaerdydd, o Rydychen i Iwerddon a thu hwnt. Y gyfrol hon yw’r cyntaf yn y gyfres gan Gyhoeddiadau Barddas sydd yn rhoi llwyfan i feirdd ifanc disglair.

Llyr Gwyn Lewis

Yn wreiddiol o Gaernarfon, enillodd Dr Lewis gadair Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ddwy flynedd yn olynol, yn Llannerchaeron yn 2010, ac yn Abertawe a’r Fro yn 2011. Er bod rhai o’r cerddi eisoes wedi eu cyhoeddi yn Tu Chwith, Taliesin, a Barddas, y gyfrol Storm ar Wyneb yr Haul yw’r casgliad cyntaf o’i waith. 

Yn ystod y lansiad, bydd y Prifardd Cadeiriol, Llion Jones, yn holi Dr Lewis am y gyfrol, a bydd cyfle i fwynhau cerddoriaeth byw.

 

Meddai Dr Lewis, a gafodd ei apwyntio fel darlithydd yn Academi Hywel Teifi trwy Gynllun Staffio Academaidd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol y llynedd:

Storm ar Wyneb yr Haul bach “Casgliad gweddol gryno o gerddi yw'r gyfrol sy'n ceisio cynnig cipolwg ar gyfnod penodol. Mae 'na nifer o gerddi yma sy'n sôn am gyfnodau'n teithio yn Iwerddon ac yng ngweddill Ewrop, cerddi am Gaerdydd a Chaernarfon, a rhai eitha' personol eu naws hefyd.

‌“Yn thematig, mae 'na nifer o gerddi hefyd sy'n cylchdroi o amgylch delweddau'n ymwneud â'r radio, ac efallai mewn gwirionedd mai dyna mai'r cerddi hyn yn trio'i wneud - dod o hyd i'r donfedd iawn”.

Cyn lansiad swyddogol y gyfrol yn siop Palas Print, bydd Dr Lewis yn rhoi blas o’i gyfrol newydd yn y Fedwen Lyfrau yn Nantgwrtheyrn am 3pm, ddydd Sadwrn, 3 Mai.