Darlith y Nadolig : Adfent Calendrau a'r Mecanwaith Antikythera

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Y mecanwaith Antikythera yw'r cyrifiadur analog cynharaf sy'n hysbys, yn cynnwys mwy na 30 o olwynion gêr. Fe'i cynlluniwyd i ragweld safleoedd yr Haul, y Lleuad a'r Planedau yn yr wybren, ac eclipsau. Y cylchoedd o symudiad lleuadol a solar y'i seilir arnynt yw'r rhai hynny sy'n dal i benderfynu manylion ein calendr ein hunain.


Siaradwr: Mae Mike yn Athro Emeritws yn yr Ysgol Ffiseg ac Astronomeg ym Mhrifysgol Caerdydd yng Nghymru. Ef yw'r prif academydd ar y Prosiect Ymchwil Mecanwaith Antikythera.


Amser: 17:30 Cofrestru, 18:00-19:00 Darlith

Dyddiad: Dydd Mawrth 16 Rhagfyr 2014

Lleoliad: Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe, SA1 3RD


Bydd Mike Edmunds yn siarad am y prosiect i ddeall y Mechanwaith anhygoel hwn, gan gynnwys newyddion ynghylch plymiad newydd diweddar ar safle'r llongddrylliad. Bydd yn ei gysylltu â chalendrau hen a newydd, ac wrth gwrs yr agwedd bwysicaf ar gyfer plant, y calendr adfent.