Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.
Trefnir y digwyddiad hwn gan Nod Cymru Deorfa Rithwir Genedlaethol Cisco (NVI Cymru), sy'n rhan o rwydwaith rithwir y DU sy'n torri tir newydd, wedi'i leoli yn ehi2 yng Ngholeg Meddygaeth Prifysgol Abertawe.
Dyddiad: Dydd Iau, 23 Hydref 2014
Amser: 12:30pm-3:00pm
Lleoliad: ILS 2, Prifysgol Abertawe
Cost: Am ddim (darperir cinio bwffe)
Bydd y digwyddiad Rhwydwaith Deorfa Rithwir Genedlaethol (NVI) hwn yn dod â siaradwyr cyweirnod o bob cwr o'r DU at ei gilydd i archwilio sut mae Data Mawr yn cynnig cipolwg ar dueddiadau sy'n ymddangos mewn data y gellir eu defnyddio ar gyfer arloesedd busnes a meddygol.
Mae casglu a datblygu data yn ffenomenon cynyddol. Bob munud, mae'r byd yn cynhyrchu 1.7 miliwn biliwn beit o ddata, dros chwe megabeit o ddata am bob person bob dydd. O ganlyniad, mae'r sector data yn tyfu 40% y flwyddyn, saith gwaith yn gynt na'r farchnad gwybodaeth a chyfathrebu gyffredinol, ac mae data mawr eisoes yn ein helpu i gyflymu gwneud diagnosis o anafiadau'r ymennydd, osgoi tagfeydd traffig a rhagweld cynnyrch cnwd mewn gwledydd datblygol, i enwi ychydig enghreifftiau'n unig.
Amcangyfrifir y bydd gwerth gwasanaethau a thechnoleg data mawr yn fyd-eang yn cyrraedd $16.9 biliwn yn 2015, ac y bydd data yn creu cannoedd o filoedd o swyddi newydd yn Ewrop. Mae busnesau sy'n seilio'u prosesau penderfynu ar wybodaeth a gafwyd o ddata yn gweld cynnydd o 56% yn eu cynhyrchiant. (EU PR, Brussels, 2 Gorffennaf 2014).
- Dydd Mercher 1 Hydref 2014 01.00 BST
- Dydd Mercher 11 Medi 2019 10.11 BST
- Prifysgol Abertawe, Ffôn: 01792 295049