Effaith gadarnhaol ddiriaethol ar yr economi leol wrth i Brif Weinidog Cymru ddechrau’r blwyddyn o gyfrif tan agoriad Campws y Bae

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Gyda llai na blwyddyn i fynd tan agoriad Campws y Bae Prifysgol Abertawe, datblygiad sy’n werth £450 miliwn, roedd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones AC, ar y safle yn gynharach heddiw i weld drosto’i hunan sut mae buddsoddiad yn y prosiect blaenllaw hwn o fudd yn barod i gadwyni cyflenwi, swyddi a sgiliau lleol.

Wrth siarad o du allan i'r Ganolfan Peirianneg Gweithgynhyrchu (a elwir yn Peirianneg Dwyreiniol), a gefnogir gan £20 miliwn o arian yr UE a ddarperir drwy Lywodraeth Cymru, dywedodd y Prif Weinidog: “Mae cyfnod adeiladu'r prosiect hwn wedi chwarae rhan flaengar o ran y swyddi, sgiliau a chyfleoedd cadwyn gyflenwi. Mae hefyd yn tynnu sylw at y manteision y gall cymorth ariannol ychwanegol gan yr UE a Llywodraeth Cymru gael ar fywydau pobl leol a myfyrwyr y dyfodol”.

First Minister Bay Campus Visit October 2014Llun (o’r chwith i’r dde) Steve Burke, Cyfarwyddwr Adeiladu, St. Modwen; Carwyn Jones, Prif Weinidog; yr Athro Richard B Davies, Is-ganghellor, Prifysgol Abertawe.

Meddai’r Athro Richard B. Davies, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe: “Pan fydd Campws y Bae yn agor ei drysau i fyfyrwyr y flwyddyn nesaf, ochr yn ochr â'n campws Parc Singleton, bydd gan Brifysgol Abertawe hunaniaeth glir o fod yn un Brifysgol â dau gampws, y ddau yn darparu profiad gwell i fyfyrwyr, dysgu academaidd, a chyfleusterau ymchwil o'r radd flaenaf.

Mae nawdd ariannol yr UE a Llywodraeth Cymru i’n Canolfan Gweithgynhyrchu Peirianneg, yn ein rhoi mewn sefyllfa gref i ddefnyddio'r cyfleuster o'r radd flaenaf hon i fagu a masnacheiddio ymchwil sydd yn torri tir newydd dan arweiniad y diwydiant, ac yn gosod Cymru ar lwyfan yr economi wybodaeth fyd-eang”.

Ers i’r gwaith adeiladu ddechrau ar y safle ym mis Mai 2013, mae St. Modwen, perchennog y tir a phrif ddatblygwr y prosiect, wedi rhoi 102 o gytundebau gwerth dros £66m i gwmnïau lleol. DJ Construction, cwmni adeiladu teuluol o Bort Talbot, oedd un o’r cwmnïau lleol cyntaf i gael gwaith trwy’r prosiect.  Penodwyd nhw yn y lle cyntaf i wneud gwaith ar y sylfaen, ond ers hynny, mae’r cwmni wedi ennill cytundebau ychwanegol i weithio ar Gampws y Bae.  Gwerth y cytundebu hyn yw £600,000, sydd wedi golygu fod maint y cwmni wedi mwy na dyblu, a’r gweithlu wedi cynyddu o 7 i 18 staff parhaol yn y 18 mis diwethaf. Pan oedd y gwaith ar ei anterth yn gynharach eleni, roedd 30 o weithwyr yn cael eu cyflogi gan y cwmni.

“Rydym yn gwbl ymrwymedig i gefnogi cadwyni cyflenwi, swyddi a sgiliau lleol yn ein datblygiad Campws y Bae i Brifysgol Abertawe. Rydym wedi cydweithio â’n prif gontractwyr a’u partneriaid hyfforddi lleol i greu cymaint o gyfleoedd â phosib i bobl leol ac mae’n wych gweld effaith cadarnhaol hyn, fel y gwelir yn hanes DJ Construction.

“Rydym hefyd yn ymrwymedig i fuddsoddi yn adfywiad hir dymor De Cymru. Mae Campws y Bae Prifysgol Abertawe yn un o bedwar datblygiad hir dymor rydym yn gweithio arnyn nhw yn y rhanbarth ar hyn o bryd, mewn buddsoddiad sy’n werth £3 biliwn. Bydd y datblygiadau hyn, gyda’i gilydd, yn darparu o gwmpas 6 miliwn troedfedd sgwâr o le gwaith, 30,000 o swyddi a dros 8,500 o gartrefi.  Rydym hefyd yn mynd i gefnogi cyfleusterau cymunedol dros y 20-30 mlynedd nesaf er mwyn trawsffurfio’r ardal i genedlaethau’r dyfodol ei mwynhau”.

First Minister Bay Campus Visit

Llun (o’r chwith i’r dde) Yr Athro Iwan Davies, Dirprwy Is-ganghellor, Prifysgol Abertawe; yr Athro Richard B Davies, Is-ganghellor, Prifysgol Abertawe; Carwyn Jones, Prif Weinidog; Steve Burke, Cyfarwyddwr Adeiladu, St. Modwen; a’r Athro Javier Bonet, Pennaeth y Coleg Peirianneg. 

Mae’r gwaith adeiladu Campws y Bae wedi cael effaith mawr ar ardal Bae Abertawe eisoes, gyda 3,400 o bobl yn gweithio ar y safle, gyda 76% o'r gweithwyr yn byw yng Nghymru, a 19% ohonynt o fewn 10 milltir o safle’r campws. Darparwyd dros 1,700 o wythnosau profiad gwaith, cafodd 30 o bobl leol cefnogaeth i ddychwelyd i’r gwaith, a chefnogwyd dros 79 o brentisiaethau.

‌‌Un stori llwyddiant diweddar yw Matthew Jones, 36, o Bort Talbot, sydd wedi cael cymorth yn ôl i gyflogaeth ar Gampws y Bae gan y tîm Gweithffyrdd Castell-nedd Port Talbot wedi iddo gael ei ddiswyddo yn Rhagfyr 2013. Mae Matthew wedi bod yn gweithio fel gweinyddwr llawn-amser ar gyfer RDM Electrical o Abertawe, y prif is-gontractwr sy'n darparu gwasanaethau trydanol a mecanyddol yn y datblygiad.

ERDFlogoAmcangyfrifir y bydd datblygiad Campws y Bae yn arwain at effaith economaidd o tua £3 biliwn, gyda'r potensial i greu hyd at 10,000 o swyddi newydd dros y 10 mlynedd y bydd y prosiect hwn yn para a thu hwnt i hynny. Pan fydd Campws y Bae yn croesawu’r myfyrwyr cyntaf ym mis Medi 2015, bydd rhan gyntaf datblygiad Campws y Bae yn cynnwys 1,000,000 milltir sgwâr o adeiladau academaidd a llety i fyfyrwyr. Bydd y datblygiad yn cynnwys Sefydliad Deunyddiau Strwythurol newydd (cartref i Ddeunydd Abertawe a Research Testing Ltd), Peirianneg Ganolog (cartref i'r Canolbwynt Arloesi), Peirianneg Dwyreiniol (cartref i’r Ganolfan Peirianneg Gweithgynhyrchu), Llyfrgell y Bae, Neuadd Fawr, Ysgol Reolaeth, a’r Sefydliad Ymchwil Diogelwch Ynni (ESRI).

Bydd y llety myfyrwyr yn cynnwys 1,462 o ystafelloedd newydd wedi’u clystyru o amgylch cyrtiau cymunedol, gyda mynediad uniongyrchol i'r traeth a'r cyfleusterau myfyrwyr ategol gerllaw. Bydd gofod ychwangeol ar y safle yn gartref i Ganolfan Wybodaeth y Tŵr, gwasanaethau myfyrwyr, gwasanaethau cymorth i staff, campfa a neuadd chwaraeon newydd, Undeb y Myfyrwyr, golchdy a meithrinfa.