Farsity’n dod yn ôl i’r Liberty

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Farsity Cymru’n mynd i’r gorllewin. Cynhelir twrnamaint chwaraeon prifysgol Caerdydd yn erbyn Abertawe yn Abertawe am y tro cyntaf mewn pum mlynedd.

varsitylogoYm mis Ebrill, cynhelir gêm rygbi’r dynion, uchafbwynt y deunawfed o’r gemau blynyddol, yn Stadiwm Liberty o flaen nifer amcangyfrifedig o 20,000 o gefnogwyr.

Am y pedair blynedd ddiwethaf, cynhaliwyd y gêm yn Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd. Y llynedd nid oedd modd cynnal y gêm yn y Liberty oherwydd ymgyrch Ewropeaidd Dinas Abertawe.

Mae cadeirydd Farsity Cymru, Paul Thorburn, yn edrych ymlaen at weld y twrnamaint yn cael ei gynnal yn Abertawe eto.

“Mae hyn yn unol â phenderfyniad y bwrdd i wneud yr ornest yn ddigwyddiad cartref ac oddi cartref blynyddol.  Cystadleuaeth Farsity Cymru yw un o’r achlysuron gorau yng nghalendr y myfyrwyr ac mae’n un o’r digwyddiadau chwaraeon mwyaf i fyfyrwyr yng Nghymru.

“Mae dychweliad Farsity i Abertawe’n newyddion cyffrous i’r ddinas ac i’r myfyrwyr.”

Mae’r twrnamaint wedi tyfu’n fawr dros y pum mlynedd ddiwethaf a gwnaeth dros 20,000 o fyfyrwyr ddod i gefnogi eu prifysgolion y llynedd.

Enillodd Abertawe'r cwpan rygbi am yr ail flwyddyn, gan guro Caerdydd 19-15 felly byddant yn gobeithio cadw eu teitl ar eu cae cartref. Fodd bynnag, Caerdydd oedd enillwyr prif darian y Faristy.

Meddai swyddog chwaraeon Prifysgol Abertawe Charlotte Peters: “Mae’n hynod gyffrous ac mae’r ffaith y bydd ein hathletwyr yn cael chwarae o flaen torf gartref ar  eu cae eu hunain yn wych.”

Ychwanegodd Bryn Griffiths, is-lywydd Undeb Chwaraeon ac Athletau Caerdydd:  “Bydd ein timoedd yn awyddus i herio Abertawe ar eu tir nhw ar ôl pedair blynedd lwyddiannus gartref.  Gyda phennaeth rygbi newydd, byddwn yn anelu am y Cwpan ac yn gobeithio parhau i ddominyddu gyda tharian y Farsity.

“Sicrhewch eich bod yn mynd ar daith i’r gorllewin gan y bydd Stadiwm Liberty yn agos at fod dan ei sang ac mae’n sicr o ddarparu awyrgylch gwych a fydd yn rhagori ar flynyddoedd blaenorol.”

Bydd dros 30 o glybiau chwaraeon - o bêl-rwyd i fadminton a ffrisbi eithafol - yn cystadlu am y darian chwenychedig a ddaliwyd gan Gaerdydd ers i’r twrnamaint ddechrau ym 1997.

Gwyliwch fideo yma https://www.youtube.com/watch?v=oWmNshAHqCE

Byddwch yn rhan o Fyddin Werdd a Gwyn Abertawe drwy drydar #GWA15

www.twitter.com/SwanseaUni