Gweinidog Llywodraeth Cymru yn lansio Partneriaeth Sgiliau Prifysgol Coleg allweddol

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Heddiw lansiodd Ken Skates AC, Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg, y Bartneriaeth Sgiliau Prifysgol Coleg (CUSP) ym Mhrifysgol Abertawe.

Roedd cynrychiolwyr o sefydlwyr CUSP yn bersonol, gan gynnwys Prifysgol Abertawe, Coleg Cambria, Coleg Gŵyr Abertawe, Grŵp Castell-nedd Port Talbot a Choleg Sir Benfro.

CUSP launch

Mae'r Bartneriaeth Sgiliau Prifysgol Coleg yn ymestyn cyrhaeddiad addysg uwch yn ardaloedd daearyddol y partneriaid addysg bellach. Y nod yw datblygu a rhoi system addysg uwch a hyfforddiant arloesol a hyblyg ar waith sy'n cynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd dysgu, sy'n ymatebol i ddysgwyr a chyflogwyr, sy'n sicrhau defnyddio adnoddau'n effeithiol er budd dysgwyr ac sy'n mynd i'r afael ag anfanteision.

Gyda'i gilydd bydd CUSP yn cydlynu cynllunio strategol a darpariaeth addysg uwch ac addysg bellach o ansawdd uchel gan y partneriaid. Gan adeiladu ar arbenigedd masnachol cryf pob coleg partner bydd y sefydliadau'n cynllunio'u darpariaeth ar lefel strategol, gan gytuno ar y ffordd orau o fodloni'r gofynion sgiliau lefel uwch sy'n angenrheidiol i fyfyrwyr a chyflogwyr yng Nghymru, y sgiliau a fydd yn diffinio cystadleugarwch yn y dyfodol.

Mae datblygiad CUSP yn cefnogi Datganiad Polisi Llywodraeth Cymru ar Drawsffurfio (Tachwedd 2009) sy'n ceisio "trawsffurfio'r rhwydwaith dysgu i gynyddu dewisiadau dysgwyr, lleihau dyblygu darpariaeth ac annog dysgu ac addysgu o ansawdd uwch o fewn holl ddarpariaeth ôl-16", gan wella mynediad i'r holl ddysgwyr, gan gynnwys y rhai sydd eisoes mewn cyflogaeth. Cyflawnir hyn drwy ddatblygu a chefnogi amrywiaeth o lwybrau cynnydd i gynnwys Graddau Sylfaen, Prentisiaethau Lefel Uwch, Mynediad i Raglenni a'r Blynyddoedd Sylfaen. Bydd y rhaglenni yn ystyried datblygiadau diweddaraf dysgu ar-lein a dysgu yn y gweithle.

Meddai Ken Skates, Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg,

"Mae'n bleser gen i lansio'r Bartneriaeth Sgiliau Prifysgol Coleg heddiw. Mae'n wych gweld y math hwn o gydweithredu rhwng nifer o bartneriaid, ac mae'n esiampl o'r hyn rydym am ei weld ledled Cymru.

Drwy rannu arbenigedd ac adnoddau, rhoi mwy o ddewisiadau a chynyddu mynediad i sgiliau uwch, mae'r bartneriaeth newydd yn fantais i ddysgwyr a'r rhanbarth, ac ar ben hynny i fusnesau ac economi Cymru fel cyfanwaith.  Gall poblogaeth â sgiliau lefel uwch fod yn newyddion da i ni i gyd, a dymunaf y gorau i'r bartneriaeth newydd yng nghamau nesaf ei rhoi ar waith."

Meddai'r Athro Richard B. Davies, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe,

"Bydd CUSP a'i chydweithio â chyflogwyr, y cyhoedd a'r trydydd sector yn cynyddu potensial y Dinas-ranbarth i ddenu ariannu ar gyfer datblygu darpariaeth newydd, yn unol â galw'r myfyrwyr.  Bydd yn sicrhau bod y cyfleusterau o safon fyd-eang ar Gampws presennol Parc Singleton y Brifysgol a'r Campws Gwyddoniaeth ac Arloesi newydd yn hygyrch i'r amrywiaeth mwyaf posib o ddysgwyr rhanbarthol."

Meddai'r Athro Sharron Lusher o Goleg Sir Benfro,

"Bydd hyn yn ein helpu i uwchsgilio'r gweithlu presennol ac ailsgilio pobl o ddiwydiannau sy'n ailstrwythuro ar gyfer cyfleoedd yn sectorau eraill yr economi, yn ogystal ag addysgu pobl ifanc mewn meysydd y mae galw amdanynt yn lleol gan gyflogwyr."