Gweithdy rhyngweithiol: 3 'W' dylunio gwefan - Who-Why-What

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Trefnir y digwyddiad gan NVI Cymru, ehi2, Coleg Meddygaeth, Prifysgol Abertawe; Cynghrair Meddalwedd Cymru, Coleg Gwyddoniaeth, Prifysgol Abertawe; a TechHub Swansea.


Lleoliad: TechHub Swansea

Dyddiad: Dydd Mercher 1 Hydref 2014

Amser: 9am-1:30pm

Cost: am ddim


Mae eich gwefan yn dweud llawer amdanoch chi a'ch sefydliad. Gall hyd yn oed y newid gweledol mwyaf cynnil greu argraff sylweddol ar eich cynulleidfa darged.

Mae'r gweithdy rhyngweithiol hwn yn canolbwyntio ar eich delwedd a phresenoldeb ar-lein.

O hanfodion archwilio defnydd o liwiau, ffontiau a chyfansoddiad; i driciau delwedd clyfar, negeseuon allweddol, ystyron cudd a hyd yn oed creu'r argraff bod eich sefydliad yn llawer mwy nag ydyw mewn gwirionedd.

Dysgwch sut y mae'r gwefannau gorau yn cael yn union yr hyn maent ei eisiau gan eu hymwelwyr a faint o reolaeth sydd gennych dros siwrnai ar-lein ymwelydd ar eich gwefan.

Bwriedir y gweithdy hwn ar gyfer unigolion/cwmnïau sydd am gynyddu eu gwybodaeth o egwyddorion dylunio gwefan effeithiol ac sydd am werthuso neu wella eu gwefan.

Am greu'r argraff gywir ar-lein? Credwch, felly, mai delwedd yw popeth…

Cyflwynir y gweithdy hwn gan fentoriaid NVI Cymru, Waters Creative.  Trefnir y digwyddiad gan NVI Cymru, Cynghrair Meddalwedd Cymru a TechHub Swansea.