Gwyddoniaeth o focs sebon tywodlyd yn Abertawe

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Yr haf hwn, bydd Canolfan Chwaraeon Traeth a Dŵr 360 ar draeth Abertawe'n dod yn ganolbwynt ar gyfer trafodaeth wyddonol pan fydd rhai o wyddonwyr gorau'r DU yn mynd ar eu bocsys sebon i hyrwyddo menywod mewn gwyddoniaeth.

Ar ddydd Sadwrn 5 Gorffennaf o 11am tan 3pm, bydd y digwyddiad ymgysylltu â’r cyhoedd Gwyddoniaeth Bocs Sebon sy'n trawsnewid ardaloedd trefol yn ganolfannau dysgu, yn cael ei gynnal yn Abertawe. Bydd yn denu'r cyhoedd i gymryd saib o'u gweithgareddau pob dydd i ddysgu, holi a rhyngweithio â gwyddonwyr arloesol.

Sefydlwyd y digwyddiad arloesol, sy'n anelu at herio stereoteipiau gwyddonol traddodiadol, a mynd â gwyddoniaeth allan o sefydliadau yn uniongyrchol i’r cyhoedd, yn 2011 gan Dr Nathalie Pettorelli, Cymdeithas Sŵoleg Llundain , a Dr Seirian Summer, Prifysgol Bryste.

Bydd Gwyddoniaeth Bocs Sebon yn dilyn trefn arena hanesyddol Llundain ar gyfer trafodaeth gyhoeddus - Stondin Siarad Parc Hyde, gyda siaradwyr yn mynd ar eu bocsys sebon i dynnu sylw at eu pynciau.

Meddai cyd-sylfaenydd y digwyddiad Dr Summer: "Mae gan Wyddoniaeth Bocs Sebon agwedd syml a chyffredinol tuag at ddod â gwyddoniaeth i'r cyhoedd. Ei nod yw ymgysylltu â’r gymdeithas gyfan, yn benodol y bobl hynny na fyddent fel arall yn chwilio am ddigwyddiadau gwyddonol.

Yn wahanol i'r rhan fwyaf o ddigwyddiadau gwyddoniaeth eraill, ni fydd cynulleidfaoedd Bocs Sebon o reidrwydd wedi bwriadu dod i ddysgu am wyddoniaeth.  Bydd y gwyddonwyr yn agor eu stondin ac yn dod â'u gwyddoniaeth i seiclwyr, rhedwyr a phobl sy'n mynd â'r ci am dro yn y Bae, a hyn i gyd mewn ffordd hygyrch, cyfeillgar a hwyl.

Mae Abertawe'n lleoliad delfrydol ar gyfer Gwyddoniaeth Bocs Sebon gan fod y ddinas yn meddu ar dreftadaeth ddiwydiannol gyfoethog ynghyd â hanes peirianneg a gwyddoniaeth gyda Phrifysgol Abertawe sydd ar flaen y gad o ran arloesi ym maes gwyddoniaeth a thechnoleg.

Ychwanegodd Dr Pettorelli: "Nod Gwyddoniaeth Bocs Sebon yw ennyn diddordeb y cyhoedd mewn gwyddoniaeth a thechnoleg tra hefyd yn herio'r ystrydebau ynghylch pwy yw gwyddonwyr gorau'r DU. Eleni bydd Bocs Sebon hefyd yn mynd i Fryste (14 Mehefin) a Llundain (29 Mehefin) a bydd yn amlygu gwaith dros 35 o wyddonwyr benywaidd y DU. Rydym yn gobeithio y bydd llawer mwy o ddinasoedd yn ymuno â ni'r flwyddyn nesaf."

Mae menywod yn gweithio mewn llai na 10 y cant o swyddi anfeddygol ym maes gwyddoniaeth a pheirianneg. Mewn adroddiad a gyhoeddwyd gan yr Ymgyrch dros Wyddoniaeth a Pheirianneg (CaSE), nodir bod menywod, pobl anabl a lleiafrifoedd ethnig yn cael eu tangynrychioli ar draws STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg).

Hilary Lapin Scott

Meddai'r Athro Hilary Lappin-Scott, Microbiolegydd a Dirprwy Is-ganghellor o Brifysgol Abertawe: "Nod y digwyddiad yw rhoi'r cyfle i bawb fwynhau, dysgu, heclo, holi, rhyngweithio a chael eu hysbrydoli gan rai o'n gwyddonwyr blaenllaw. Yn y digwyddiad Gwyddoniaeth Bocs Sebon bydd gwyddonwyr benywaidd nodedig yno a fydd yn eich rhyfeddu gyda'u darganfyddiadau diweddaraf, ac yn ateb y cwestiynau gwyddonol hynny y buoch yn dymuno eu gofyn. Yn yr un modd gallwch alw heibio dim ond i wrando arnynt yn siarad am yr hyn sy'n eu rhyfeddu, a pham eu bod yn meddwl bod ganddynt y swydd orau yn y byd!

"Mae Gwyddoniaeth Bocs Sebon yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i broffil menywod mewn gwyddoniaeth ac mae'n dangos yn bendant nad yw gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg yn bynciau i 'fechgyn' yn unig." 

 

Dr Geertje van Keulen Ar gyfer gwyddonwyr sy'n fenywod, mae amlygrwydd yn hollbwysig i ddatblygu gyrfa yn y gwyddorau ac mae digwyddiadau megis Gwyddoniaeth Bocs Sebon yn helpu wrth godi eu proffil. Mewn gwyddoniaeth, gall y blynyddoedd gyrfaol cynnar fod yn ansefydlog wrth i wyddonwyr symud rhwng cytundebau tymor byr am dâl isel.  Gall y blynyddoedd hyn gyd-daro â'r cyfnod pan fydd llawer yn dymuno dechrau teulu a gall diffyg ymwneud â chylchoedd gwyddonol olygu fod menywod yn llai tebygol o fynd ymlaen yn eu gyrfaoedd na dynion. Mae cefnogi gwyddonwyr benywaidd drwy greu cyfleoedd i fenywod adeiladu eu proffiliau'n cynyddu'r tebygrwydd y bydd mwy o fenywod yn parhau mewn gyrfaoedd STEM.

Efallai'r newid mwyaf heriol a phellgyrhaeddol sydd ei angen i leihau'r nifer o fenywod sy'n cael eu colli o faes gwyddoniaeth yw newid normau cymdeithasol. Nod Gwyddoniaeth Bocs Sebon yw newid profiadau menywod mewn gwyddoniaeth drwy amlygu'r anawsterau y maent yn eu hwynebu wrth ddilyn gyrfa mewn ymchwil STEM.

Darllenwch am brofiadau'r Athro Hilary Lappin-Scott o'r bocs sebon yma!

Am fwy o wybodaeth ewch i http://soapboxscience.org/

Llun 1: Athro Hilary Lappin-Scott, Microbiolegydd a Dirprwy Is-ganghellor o Brifysgol Abertawe

Llun 2 :Dr Geertje Van Keulen