Gwyddonydd o Brifysgol Abertawe yn cyfrannu at golofn cylchgrawn Science Uncovered

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Dr Ian Mabbett, o Ganolfan Ymchwil Deunyddiau, yng Ngholeg Peirianneg, Prifysgol Abertawe, yn cyfrannu i golofn ‘Ask a Scientist’ yng nghylchgrawn rhyngwladol Science Uncovered fel aelod o banel o arbenigwyr gwyddoniaeth.

Dr Ian MabbettMae Ian, Cymrawd Trosglwyddo Technoleg i SPECIFIC (Sustainable Product Engineering Centre for Innovative Functional Coatings) yn ateb cwestiynau yn benodol am beirianneg. Mae’r golofn hefyd yn cynnwys arbenigwyr o Goleg Imperial Llundain, Prifysgol Caergrawnt, a Phrifysgol Gorllewin Florida.

Meddai Andrew Ridgway, golygydd Science Uncovered:

“Mae Ian yn aelod gwych o’r tîm, rydym yn ffodus iawn i’w gael yn gyfrannwr.

Mae ef yn ateb holl gwestiynau’n darllenwyr am beirianneg - popeth o pam nad yw Twr Pisa yn syrthio drosodd, i’r effaith mae tymheredd y byd yn cael ar faint adeiladau. Mae Ian yn llwyddo i ateb yr holl gwestiynau hyn gydag eglurder.

Mae Science Uncovered yn anelu at ddod â gwyddoniaeth yn fyw i bobl sydd ddim â chefndir yn y maes, ac mae gan Ian ddawn naturiol i wneud hyn.”

Mae Ian Mabbett yn arwain prosiect Materials: Live! ar y cyd gyda Dr Richard Johnston yng Nghanolfan Ymchwil Deunyddiau, Prifysgol Abertawe. Mae’r prosiect yn un blaengar sydd â’r nod i godi proffil gwyddoniaeth deunyddiau a pheirianneg mewn modd dengar, perthnasol a chyffrous i ddisgyblion ac athrawon.

Sefydlwyd prosiect Materials:Live! ym mis Tachwedd 2012 fel rhan o gynllun peilot saith mis o hyd drwy gronfa National Science Academy (NSA). Ar ddiwedd 2013, rhoddodd Llywodraeth Cymru cyllid ychwanegol i’r prosiect, ac felly bydd y prosiect yn rhedeg tan Fawrth 31 2015.

Am y newyddion diweddaraf am brosiect Materials: Live! ewch i’r sianel YouTube  neu dilynwch cyfrif Twitter y prosiect: @materials_live.

Am wybodaeth bellach am gylchgrawn Science Uncovered

Coleg Peirianneg, Prifysgol Abertawe