Hwb ariannu yn dod â chymorth diabetes uwch-dechnoleg a ddatblygwyd yng Nghymru gam yn nes

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe i ddatblygu cymorth diabetes uwch-dechnoleg a allai arbed bywydau cleifion drwy anfon neges destun i rybuddio staff argyfwng os byddant yn dioddef trawiad hypoglycemia (diffyg siwgr) wedi derbyn ariannu pellach.

Dr Vincent Teng diabetesMae'r ymchwil i ddatblygu monitro glwcos parhaus (CGM) sy'n rhad, yn hawdd i'w ddefnyddio ac yn cadw ymyrraeth i isafswm wedi derbyn grant pellach gwerth mwy na £114,600 gan Lywodraeth Cymru drwy ei raglen Arbenigedd Academaidd i Fusnesau (A4B) a ariennir gan yr UE.

Dechreuodd y gwaith, a arweinir gan Dr Vincent Teng, sy'n arbenigwr nanoelectroneg yng Ngholeg Peirianneg y Brifysgol, yn hydref 2011 yn dilyn grant prosiect gwreiddiol o £470,000 gan raglen A4B.

Mae'r prosiect cyntaf eisoes wedi gwneud cynnydd sylweddol tuag at ddyfais CGM, a bydd yr ariannu pellach hwn yn galluogi i Dr Teng barhau i weithio ar ail brosiect tan ddiwedd 2014, gan ddod ag ail ddyfais gam yn nes drwy ddatblygu prototeip prawf cyn-glinigol.

Mae'r ail brosiect yn cynnwys gwyddonwyr a chyfleusterau o'r radd flaenaf Canolfan NanoIechyd (CNH) y Brifysgol i ddatblygu'r ddyfais ar gyfer y genhedlaeth nesaf.

Mae'r ddyfais wedi'i seilio ar ffordd newydd o ddefnyddio nanodechnoleg a micronodwyddau, ac mae'n caniatáu monitro lefelau glwcos yn barhaus ac yn ddi-boen, sy'n ddefnyddiol wrth reoli'r clefyd.

Bydd defnyddio technoleg ddiwifr yn galluogi trosglwyddo darlleniadau o'r synhwyrydd i ddyfais symudol, a bydd hefyd yn rhybuddio'r perthynas agosaf enwebedig neu staff meddygol os bydd y claf mewn perygl o drawiad hypoglycemia.

Meddai'r Gweinidog dros yr Economi, Edwina Hart, "Nod rhaglen A4B yw defnyddio gwybodaeth, arbenigedd a chyfleusterau ein sefydliadau academaidd i helpu i ysgogi syniadau busnes a lansio cynhyrchion a phrosesau newydd er budd economaidd Cymru. Mantais arall y prosiect hwn yw y gallai wella ansawdd bywyd miliynau o bobl sy'n dioddef gan ddiabetes."

Meddai Dr Teng, sy'n arwain y Grŵp Ymchwil Nanoelectroneg yng Nghanolfan Nanodechnoleg Amlddisgyblaethol y Coleg Peirianneg, "Mae diabetes yn glefyd cronig tymor hir y gellir ei reoli yn unig, nid ei wella. Gall y clefyd hefyd arwain at lawer o gymhlethdodau iechyd, a hyd yn oed marwolaeth, os na chaiff ei reoli'n gywir.

"Nod y dechnoleg rydym yn ei datblygu yn Abertawe yw ceisio mynd i'r afael â her sylweddol i ofal iechyd, sef cefnogi pobl ddiabetig i reoli'u cyflwr eu hunain yn effeithiol, heb eu harwahanu o'u darparwyr gofal.

"Bydd system fonitro effeithiol yn lleihau'r risg o gymhlethdodau iechyd sy'n gysylltiedig â diabetes, gan wella ansawdd bywyd cleifion.  Rydym yn hynod falch ein bod wedi derbyn yr ariannu pellach hwn gan Lywodraeth Cymru drwy raglen A4B, a fydd yn dod â gwireddu'r ddyfais hon a'i heffeithiau cadarnhaol ar fywyd cleifion gam yn nes."

Bydd hefyd modd addasu'r system fonitro sy'n cael ei datblygu ym Mhrifysgol Abertawe ar gyfer cyflyrau cronig eraill, megis clefyd coronaidd y galon, strôc, canser ac asthma.


Mae Arbenigedd Academaidd i Fusnesau (A4B) yn rhaglen gymorth chwe blynedd a ariennir gan Lywodraeth Cymru a/neu Gronfeydd Strwythurol Ewropeaidd, a'i bwriad yw darparu pecyn cymorth syml ac integredig ar gyfer trosglwyddo gwybodaeth o'r byd academaidd i'r byd busnes.