Mae Coleg Meddygaeth Prifysgol Abertawe Dosbarth Meistr 2014

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Arthur W Frank, Athro Emeritws, Prifysgol Calgary, Canada; Storïau a Hanesion: O Theori i Ymarfer

Mae Letting Stories Breathe: A Socio-narratology (University of Chicago Press, 2010) gan Arthur Frank yn ganlyniad degawd o weithdai mewn dadansoddiad naratif. Mae’r gweithdy hwn yn darparu cefndir mewn naratoleg gymdeithasol ac estyniad o’i ddull. Mae’r cefndir yn egluro’n well beth yw dyled naratoleg gymdeithasol i dri o ddamcaniaethwyr:  Michel Foucault, Pierre Bourdieu, a Bruno Latour. Mae’r cefndir damcaniaethol hwn yn cyfoethogi ehangder y casgliadau y gellir eu canfod o ymchwil naratif penodol, yn ogystal â chyfiawnhau penderfyniadau ynghylch y broses ymchwil. Bydd y Dosbarth Meistr yn canolbwyntio ar foeseg naratif fel un ffurf o naratoleg gymdeithasol gymhwysol. 

Dydd Mercher, 17 Medi 2014           

Ystafell SURF, Tŷ Fulton, Prifysgol Abertawe 

Pris £75 yr un (£50 i bobl sydd wedi ymddeol a myfyrwyr 

 

I gadw eich lle, cysylltwch â: 

Ms Vicky Davies

Cynorthwyydd Personol yr Athro Frances Rapport

Uned Ymchwil Ansoddol

Coleg Meddygaeth

Athrofa Gwyddor Bywyd 2, Llawr 2

Prifysgol Abertawe

Parc Singleton

Abertawe, SA2 8PP

Ffôn: 01792-513407

E-bost: v.i.davies@swansea.ac.uk