O Brifysgol Abertawe i’r sgrîn fawr

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Dychwelodd cyn-fyfyriwr Prifysgol Abertawe, Jonny Owen, i’r brifysgol ar gyfer dangosiad ei ffilm newydd yng Nghanolfan Celfyddydau y Taliesin ar 6 Mai.

Yn enedigol o Ferthyr, mae Jonny Owen yn gynhyrchydd, awdur ac actor arobryn. Jonny yw awdur a seren y ffilm Svengali, cyfres boblogaidd a ddechreuodd ar y rhyngrwyd sydd wedi’i haddasu’n ffilm i’r sgrin fawr.

Jonny Owen (medium) Disgrifiwyd y ffilm gan awdur Trainspotting, Irvine Welsh, fel “Un o’r ffilmiau Prydeinig mwyaf cŵl a doniol ers tro”.

Mae Svengali yn adrodd hanes Dixie (Jonny Owen), postmon o gymoedd de Cymru sy’n ffanatig cerddoriaeth. Ar hyd ei oes, mae Dixie wedi breuddwydio am ddarganfod band a’u gwneud nhw’n enwog. Yna, un diwrnod, wrth edrych drwy glipiau YouTube, daw Dixie o hyd i fand  – ‘The premature Congratulations’. Mae Dixie yn llwyddo i ddod o hyd iddynt, ac mae Dixie a’i gariad, Shell (Vicky McClure) yn gadael y cymoedd i fynd i Lundain a dilyn ei freuddwyd.

Gyda chast o actorion o fri, mae sêr Svengali yn cynnwys Martin Freeman (The Office, Sherlock), yr actores arobryn Vicky McClure (This is England, Broadchurch) Katy Brand, a Matt Berry, ynghyd â ffigurau cerddoriaeth blaenllaw fel Alan McGeeand, Carl Barat a Jake Bugg.

Cychwynnodd Jonny ei yrfa actio tra’r oedd yn fyfyriwr Hanes ym Mhrifysgol Abertawe, ac ers hynny, mae wedi ymddangos yn rhai o gyfresi mwyaf poblogaidd y DU, yn cynnwys, Shameless, Torchwood, Murphy’s Law, a My Family.Yn 2006, enillodd Jonny BAFTA Cymru raglen ddogfen ar drychineb Aberfan.

Wrth sôn am ei gyfnod fel myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe, meddai Jonny: “Mynd i Brifysgol Abertawe oedd y penderfyniad gorau wnes i erioed. Ro’n i wrth fy modd â’r lle, a bydd gan y Brifysgol lle arbennig yn fy nghalon am byth”.  

Meddai Sally Thurlow, Rheolwr Cysylltiadau Cyn-fyfyrwyr  Prifysgol Abertawe, “Rydym yn falch dros ben fod Jonny wedi dychwelyd yma ar gyfer dangosiad ei ffilm ddiweddaraf, a’i fod wedi neilltuo amser i gwrdd â rhai o’n myfyrwyr cyn y ffilm, yn ogystal â chymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb ar ôl hynny.

“Mae’n fraint cael cwrdd â’n cyn-fyfyrwyr, gyda sawl un wedi mynd yn eu blaenau i ddilyn gyrfaoedd llwyddiannus i bedwar ban y byd”.

Llun: Jonny Owen a'r Athro John Spurr

Jonny Owen and Professor John  Spurr

Yr Athro John Spurr, Pennaeth Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau, arweiniodd y sesiwn holi ac ateb gyda Jonny ar ôl y ffilm. 

Meddai’r Athro Spurr: “Roedd hi’n wych i allu croesawu Jonny nôl i Abertawe wedi iddo dderbyn gradd Hanes yma yn cyn ennill enw i’w hun yn y Celfyddydau. Rydym yn ymfalchïo yn yr hyn mae Jonny wedi’i gyflawni”.