Prifysgol Abertawe'n cadw llyfr nodiadau "coll" Dylan Thomas yng Nghymru

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Heddiw (dydd Mawrth, 9 Rhagfyr) llwyddodd Prifysgol Abertawe i sicrhau y bydd un o lyfrau nodiadau Dylan Thomas y cafodd ei ailddarganfod yn ddiweddar yn aros yng Nghymru ac ar gael i ysgolheigion.

Llwyddodd y Brifysgol i brynu'r llyfr am £85,000 mewn arwerthiant yn Sotheby's ar ôl bod mewn drâr mewn angof am ddegawdau cyn iddo ddod i law yn ddiweddar. Mae'n un o bum llyfr nodiadau y defnyddiodd Dylan Thomas – mae'r pedwar arall ym Mhrifysgol Talaith Efrog Newydd yn Buffalo. Disgrifiodd yr Athro John Goodby, arbenigwr rhyngwladol ar Dylan Thomas a golygydd rhifyn canmlwyddiant ei gerddi, y darganfyddiad fel "y Greal Sanctaidd i ysgolheigion Thomas", a'r mwyaf cyffrous er marwolaeth y bardd ym 1953.

Meddai Jeff Towns, Cadeirydd Cymdeithas Dylan Thomas a pherchennog Dylans Bookstore, a fu'n cynnig ar ran y Brifysgol yn yr arwerthiant, "Ni allaf ddychmygu unrhyw beth mwy priodol a phwrpasol i ddod â blwyddyn gyfan o ddathlu bywiog canmlwyddiant yr awdur mawr i ben. Petai unrhyw un wedi awgrymu'r fath beth fis Ionawr diwethaf, buaswn wedi dweud ei fod yn amhosib ar sawl cyfrif. Mae dod â'r llyfr nodiadau coll hwn - mor drawiadol a theimladwy - yn ôl i Abertawe, i'w gadw yng Nghymru ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, yn gyflawniad anferth, ac mae'n deimlad aruthrol cael bod yn rhan fach o hynny."

Caiff y llyfr nodiadau ei gadw yn Archifau Richard Burton y Brifysgol, y mae eisoes yn gartref i ddyddiaduron a phapurau eraill Burton y'u rhoddwyd i'r Brifysgol gan ei widw, Sally, ac eitemau pwysig eraill, gan gynnwys papurau'r academydd a'r awdur, Raymond Williams, a Chasgliad Meysydd Glo De Cymru. Mae'r archifau'n agored i bawb drwy apwyntiad.

Meddai'r Athro Iwan Davies, Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol Abertawe, "Fel y brifysgol ym man geni'r bardd a noddwr Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas, mae'n briodol ein bod wedi gallu sicrhau bod y llyfr nodiadau hwn yn aros yng Nghymru a'i fod ar gael i ysgolheigion. Bydd y llyfr nodiadau yn ychwanegiad hyfryd i'n casgliad archif helaeth a phwysig."