Prifysgol Abertawe yn cyrraedd rhestr fer categori Prifysgol y Flwyddyn yng ngwobrau’r Times Higher

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Cyhoeddwyd heddiw bod Prifysgol Abertawe wedi cyrraedd rhestr fer sawl categori yng ngwobrau’r Times Higher Education, gan gynnwys Prifysgol y Flwyddyn.

Times Higher yw un o’r cyhoeddiadau mwyaf awdurdodol ac uchaf ei barch yn y byd ym maes addysg uwch. Ar gyfer eu gwobrau, cyflwynwyd cannoedd o enwebiadau ar gyfer sefydliadau, adrannau ac unigolion neilltuol ar draws 18 categori, gan gwmpasu holl ystod gweithgaredd prifysgolion. 

THE Awards shortlist logop 2014Mae Prifysgol Abertawe wedi cyrraedd rhestr fer y pedair gwobr a ganlyn:

Prifysgol y Flwyddyn, lle mae’r cyfeiriad ati’n sôn am lefel uwch nag erioed o geisiadau, campws newydd y Bae, gwaith gyda busnesau, a mentrau chwaraeon megis Campau’r IPC yn ddiweddar, a gwaith ar y cyd â Chlwb Pêl-droed Dinas Abertawe ar gyfleusterau newydd. (Gweler y ffeithiau a’r ffigurau isod)


Ymgysylltu â Chyflogwyr: datblygu arweinyddiaeth gyda busnesau bach, a rhaglenni hyfforddi wedi’u cynnal mewn cydweithrediad ag amrywiaeth o ddiwydiannau er mwyn ymateb i anghenion busnesau.  


Rhagoriaeth ac Arloesedd yn y Celfyddydau, am y Rhaglen Sgiliau Treftadaeth, sydd yng ngofal Sefydliad Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau. Roedd hon yn cynnig gweithdai arbenigol gyda thema dreftadaeth i fyfyrwyr a lleoliadau mewn sefydliadau treftadaeth proffil uchel.


Prosiect Ymchwil y Flwyddyn, am waith y Dr David Turner ar hanes anabledd. Mae’r Dr Turner, sy’n hanesydd yng Ngholeg y Celfyddydau a’r Dyniaethau, wedi ennill gwobr gyhoeddi ryngwladol, a bu’n gweithio gyda’r BBC ar gyfres i Radio 4.

Meddai’r Athro Hilary Lappin-Scott, Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol Abertawe: “Rwyf wrth fy modd gyda’r newyddion gwych hwn, sy’n cadarnhau bod Prifysgol Abertawe yn dal i godi i dir uwch. Mae hyn yn dilyn ein henwebiad ym mis Mai ar gyfer WhatUni’s University of the Year.  Rydym hefyd wedi sgorio’n uchel iawn mewn tablau cynghrair proffil uchel megis QS Stars global university ratings system a roddodd y sgôr uchaf o 5 seren i Brifysgol Abertawe am Ryngwladoli, Addysgu, Cyfleusterau ac Ymgysylltu. 

Swansea at sunset“Mae’r Brifysgol wedi parhau i symud i fyny i blith 20 Prifysgol uchaf y Deyrnas Unedig o ran cyflogadwyedd a boddhad myfyrwyr, dau fesur sy’n arbennig o bwysig i fyfyrwyr.

“Mae’r acoladau hyn yn fesur cydnabyddedig o’n perfformiad a’n henw da, ac yn dangos bod Abertawe, sy’n sefydliad uchelgeisiol, a arweinir gan ymchwil ac sy’n cynnig addysgu o’r radd flaenaf, yn lle gwych i astudio ar gyfer myfyrwyr o’r DU, yr UE a myfyrwyr rhyngwladol.

Meddai John Gill, golygydd THE:"Mae'r dathliad yn nodi degfed pen-blwydd Times Higher Education, 10 mlynedd lle mae addysg uwch wedi gweld newidiadau mawr ond sydd bob amser wedi ymateb i'r heriau y mae wedi ei hwynebu.

"Mae ein prifysgolion a’n colegau ymhlith y sefydliadau uchaf eu parch yn y wlad hon ac yn rhyngwladol, ac mae'n fraint enfawr bod THE wedi chwarae rhan yn dathlu eu llwyddiannau dros y ddegawd ddiwethaf”.

Cyhoeddir enwau’r enillwyr ar ddydd Iau, 27 Tachwedd 2014 yng ngwesty’r Grosvenor House, Park Lane, Llundain.

Prifysgol Abertawe yn 2012-13: ffeithiau a ffigyrau

  • 23% - cynnydd yn y nifer o geisiadau israddedig
  • 77.5% - myfyrwyr yn sicrhau gwaith lefel raddedig neu astudio (cynnydd o 19% ers 2011
  • 86% - sgôr boddhad myfyrwyr (cynnydd o 4% ers 2011)
  • 26% - cynnydd yn y nifer o fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig
  • 77% - cynnydd mewn cyrsiau meistr a addysgir (2004-2013)
  • 60% - cynnydd incwm ymchwil (2004-2013)
  • y cytundeb partneriaeth strategol fawr cyntaf rhwng y DU a phrifysgol Ffrangeg (Université Joseph Fourier, Grenoble)