Profiadau Porth Angau a Dealltwriaeth Newydd o’r Ymwybod?

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd y nesaf yn y gyfres o ddarlithiau cymunedol rhad ac am ddim a drefnir gan Adran Addysg Barhaus i Oedolion (DACE) Prifysgol Abertawe yn cael ei chynnal ddydd Mawrth 18 Mawrth, 6.15pm-8.00pm yng Ngweithdy Dove.

Siaradwr: Dr Penny Sartori

Teitl y ddarlith: Profiadau Porth Angau a Dealltwriaeth Newydd o’r Ymwybod?

Dyddiad: Dydd Mawrth 18 Mawrth 2014

Amser: 6.15pm-8.00pm

Lleoliad:Gweithdy Dove, y Ffordd Rufeinig, Banwen, Castell-nedd, SA10 9LW

Mynediad: Rhad ac am ddim, croeso i bawb

Yn y sgwrs hon, bydd Dr Penny Sartori yn trafod yr ymchwil ddiweddaraf i brofiadau porth angau ac yn ystyried y posibilrwydd y gallai ymwybyddiaeth fod yn ddi-leol yn hytrach na chael ei chynhyrchu gan yr ymennydd. Bydd yn ystyried rhai achosion newydd o brofiadau porth angau lle y mae pobl wedi dweud eu bod wedi ennill gwybodaeth, tra eu bod yn anymwybodol, nad oedd ganddynt yn flaenorol.

Manylion cyswllt: I archebu lle neu i gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch 01792 602211, neu anfonwch neges e-bost at: adult.education@swansea.ac.uk (D.S. ni fydd lleoliad y ddarlith yn derbyn archebion). Ewch i www.swansea.ac.uk/dace