Prosiect ymchwil newydd gan Brifysgol Abertawe a fydd yn helpu i achub coedwigoedd, coetiroedd a choed yn y DU

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Prifysgol Abertawe wedi ennill cyfran o bot ariannu gwerth £7m a fydd yn datblygu ymchwil ar wella dealltwriaeth o blâu a phathogenau coed, a bioddiogelwch planhigion cysylltiedig ac yn helpu wrth fynd i’r afael â bygythiadau i goedwigoedd, coetiroedd a choed y DU.

Mae ymchwil Prifysgol Abertawe’n un o saith prosiect ymchwil newydd i dderbyn nawdd dan y Fenter Iechyd Coed a Bioddiogelwch Planhigion (THAPBI) a fydd yn creu gwybodaeth i fynd i’r afael â phlâu ac afiechydon ac i gefnogi iechyd coetiroedd, coedwigoedd masnachol a choed trefol y DU yn y dyfodol. Amcangyfrifir mai gwerth buddion cymdeithasol coed y DU yw oddeutu £1.8 biliwn y flwyddyn.

Mae prosiect Abertawe, a arweinir gan yr Athro Tariq Butt, yn derbyn £900 mil ar gyfer ei ymchwil ar Reoli Plâu Biolegol ar gyfer Plâu Pryfed sy’n Bygwth Iechyd Coed (BIPESCO).

Mae nifer o bryfed yn bygwth bioddiogelwch planhigion a choed y DU. Yn ddiweddar argymhellodd y Tasglu Iechyd Coed a Bioddiogelwch Planhigion Arbenigol a sefydlwyd gan y Llywodraeth y dylai’r DU ddatblygu a gweithredu ffyrdd o ragweld, monitro a rheoli lledaeniad plâu.

Adult pine weevil

Wrth siarad am brosiect Prifysgol Abertawe, meddai’r Athro Butt:

“ Mae’n bleser gennym dderbyn y nawdd ar gyfer ein prosiect rhyngddisgyblaethol a fydd yn defnyddio planhigion a bio-reoli gyda ffyngau entomopathogenig (EPF) i ladd a rheoli plâu pryfed sy’n bygythio coed y DU.  Bydd BIPESCO yn datblygu’r plaladdwyr naturiol hyn sy’n ddull amgen i blaladdwyr cemegol confensiynol sy’n destun cyfyngiadau llym o ran y modd y’u defnyddir.

 

Black vine weevil larvae

 “ Nod BIPESCO yw adnabod rhywogaethau EPF sydd y mwyaf pathogenig i rywogaethau pryfed cyfredol a newydd i’w defnyddio fel dull rheoli effeithiol, wrth ochr planhigion sy’n denu neu’n gwrthyrru plâu targed. Bydd yr ymchwilwyr yn defnyddio planhigion i ddwysáu’r plâu a’u cyflwyno i EPF a chyfryngau eraill mewn strategaethau “denu a lladd” a “dwysáu a lladd”, gan gynyddu gwybodaeth am y mecanweithiau sylfaenol sy’n rhan o reoli. Bydd cynhyrchion BIPESCO yn cynnig dulliau cynaliadwy o reoli plâu sy’n ystyriol o’r amgylchedd, a fydd o fudd i lawer o sectorau’n uniongyrchol ac yn anuniongyrchol.”

Yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae nifer o blâu ac afiechydon newydd wedi dod i’r amlwg fel bygythiadau sylweddol i iechyd coed a bioddiogelwch planhigion. Mae’n bosibl bod newidiadau yn y modd y caiff planhigion a chynhyrchion planhigion eu prynu a’u gwerthu hefyd yn cyfrannu at y risg y bydd plâu ac afiechydon newydd yn dod i’r DU. Mae’n bosibl hefyd fod newid yn yr hinsawdd hefyd yn cynyddu’r risg y bydd y plâu a’r afiechydon hyn yn lledaenu.

Meddai Gweinidog yr Amgylchedd Lord de Mauley:    

“Mae diogelu dyfodol ein coed a’n planhigion o bwys mawr- ar fwy nag un achlysur rydym wedi gweld y dinistr ofnadwy y gall afiechydon o’r fath adael ar eu hôl. Ond yn ogystal â’r amgylchedd, mae’r economi hefyd yn dioddef. Mae’n hollbwysig ein bod yn buddsoddi mewn ymchwil fel hyn i ddiogelu’n well ein coetir gwerthfawr rhag bygythiad plâu ac afiechydon yn y dyfodol.”

Bydd y prosiectau ymchwil newydd yn helpu i atal y bygythiadau hyn drwy hysbysu a gwerthuso strategaethau rheoli, lliniaru neu addasu posibl. Bydd y prosiectau hefyd yn creu gwybodaeth wyddonol naturiol a chymdeithasol i helpu wrth wella dealltwriaeth o effeithiau amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol a ddaw yn sgîl newidiadau mewn iechyd coed.  Mae’r prosiectau’n canolbwyntio ar: ddulliau newydd ar gyfer canfod problemau’n gynnar; deall pryderon y cyhoedd; cynyddu hydwythdedd yn erbyn achosion o afiechydon mewn coed; dod o hyd i gliwiau genetig ar gyfer iechyd coed gwell; rheoli biolegol plâu pryfed; a deall clefyd coed ynn.

Ariennir THAPBI gan y Bartneriaeth Byw gyda Newid Amgylcheddol gyda chymorth y Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol, Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, y Comisiwn Coedwigaeth, Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol a Llywodraeth yr Alban.

Bydd yr ymchwil yn mynd i’r afael â bylchau mewn gwybodaeth a adnabuwyd gan Dasglu Arbenigol Iechyd Coed a Bioddiogelwch Planhigion Defra a nodau’r ‘Cynllun Gweithredu Iechyd Coed a Bioddiogelwch Planhigion’ sy’n gynllun gweithredu ar y cyd rhwng Defra a’r Comisiwn Coedwigaeth. Bydd y prosiectau hefyd yn sicrhau y bydd gan y DU fwy o allu ymchwil yn y meysydd hyn.