Sefydlu panel diwydiant ar gyfer darpariaeth gyfryngol Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Yn dilyn cyfnod o fentora drwy gynllun Darpariaeth Greadigol Creative Skillset, mae tîm addysgu'r cwrs BA Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus o fewn Academi Hywel Teifi wedi bwrw ati i sefydlu panel diwydiant ymgynghorol. Ar hyn o bryd, dyma'r unig sefydliad sy'n cynnig y cyfuniad hwn o bynciau yn gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae Darpariaeth Greadigol yn rhaglen ddatblygu dan arweiniad Creative Skillset sy'n anelu at bartneru adrannau academaidd ym meysydd y diwydiannau creadigol gyda mentoriaid ymgynghorol profiadol o'r diwydiannau proffesiynol.

Rhai o ddeilliannau'r cyfarfodydd  mentora dderbyniodd y tîm yn ystod 2013/14 fu'r anogaeth iddynt adnabod rhai themâu i'w datblygu ymhellach o fewn y ddarpariaeth gyfredol, a hefyd i weithredu ar eu cynllun i sefydlu panel diwydiant ymgynghorol, a chyfarfu'r panel hwn am y tro cyntaf ar gychwyn y flwyddyn academaidd hon.

Prif amcan sefydlu'r panel yw ysgogi trafodaeth ystyrlon ac adeiladol rhwng academyddion a chynrychiolwyr o'r sectorau cyflogaeth berthnasol. Dros y misoedd nesaf bydd cyfle i drafod agweddau yn ymwneud â pherthnasedd a chyfrifoldeb y ddarpariaeth gyfredol, ac adnabod agweddau y gellir anelu at eu datblygu.

Eisoes yn y cyfarfod cyntaf bu aelodau gwahoddedig y panel yn mynegi barn a chynghori ar ystod o faterion cwrricwlaidd-berthnasol mewn meysydd sydd yn datblygu'n gyflym ac yn barhaus, gan gynnwys: cyflogadwyedd graddedigion, meithrin mentergarwch ynghyd â chynyddu ar y sgiliau a'r arbenigeddau eraill sydd, neu a fydd , yn debygol o fod yn ddisgwyliedig o gyfeiriad darpar gyflogwyr graddedigion yn y blynyddoedd i ddod.

Panel Diwydiant

 

 

 

 

 

 

 

 

Ymysg aelodau gwadd y panel mae:

  • Matt Appleby - Rheolwr Gyfarwyddwr Golley Slater
  • Aled Parry - Cyfarwyddwr Creadigol Cube
  • Rachel Evans - Pennaeth Cynllunio a Phryniannau S4C
  • Eryl Jones -  Rheolwr Gyfarwyddwr Equinox Communications
  • Elin Rhys - Rheolwr Gyfarwyddwr Telesgop
  • Gethin While - Rheolwr Cynllun Gwobrau Dewi Sant Llywodraeth Cymru

Meddai Non Vaughan Williams, Darlithydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol mewn Cyfryngau Digidol ym Mhrifysgol Abertawe: “Mae sefydlu’r panel diwydiant yn ffrwyth penllanw o gydweithio gyda mentor diwydiant y llynedd, o dan nawdd prosiect Darpariaeth Greadigol, Creative Skillset.

“Roedd yn bleser croesawu aelodau o'r diwydiant cyfryngau a chysylltiadau cyhoeddus i'r campws gyda'r nod o sicrhau bod ein darpariaeth yn gyfredol ac yn paratoi myfyrwyr ar gyfer byd gwaith wedi eu harfogi gyda'r sgiliau a'r wybodaeth angenrheidiol”.


Llun: Rhai o aelodau'r panel diwydiant gyda darlithwyr cyfryngau a chysylltiadau cyhoeddus Academi Hywel Teifi.