Technoleg bioargraffu meinweoedd 3D a ddatblygwyd gan y Brifysgol nawr ar gael yn fasnachol

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae cwmni deillio technoleg gwyddor bywyd Prifysgol Abertawe, 3Dynamic Systems Cyf. (3DS), wedi cyhoeddi argaeledd ei ddau beiriant bioargraffu 3D – y bioargraffyddion Alhpa ac Omega.

3DS Dr Daniel ThomasMae'r ddau beiriant yn gallu dyddodi ystod o ddeunyddiau actif a biolegol gytûn, gyda chymwysiadau mewn ymchwil gwyddorau bywyd, meddygaeth adfywiol, peirianneg meinweoedd esgyrn a datblygu fferyllol.

Sylfaenwyd 3DS, ym Mhrifysgol Abertawe, gan Dr Daniel J Thomas, Uwch-swyddog Ymchwil yng Nghanolfan Argraffu a Chaenu Cymru (WCPC) y Coleg Peirianneg.

Mae Dr Thomas wedi cynnal ymchwil helaeth ym maes gweithgynhyrchu ac argraffu 3D, ac o ganlyniad i'w waith yn WCPC, mae'n barod i fasnacheiddio'i systemau bioargraffu 3D, gyda'r nod o agor ymchwil bioargraffu drwy ddarparu peiriannau o ansawdd o ymchwilwyr sydd am ddefnyddio pŵer technoleg bioargraffu 3D.

"Mae'r bioargraffyddion hyn yn gallu dyddodi ystod o ddeunyddiau actif a biolegol gytûn," meddai Dr Thomas. "Mae'r cwmni'n gweithio i greu esgyrn trawsblanadwy 3D a lluniadu meinweoedd cymhleth ar orchymyn.

"Rhyw ddydd, bydd modd defnyddio'r datblygiad cyffrous hwn mewn technoleg peirianneg feinweoedd a ddatblygwyd drwy 3DS i drin cleifion ag anafiadau difrifol, ac mae samplau o'r meinweoedd y mae'r peiriannau'n eu creu yn cael eu harddangos yn Rheolaeth Deunyddiau ac Ymchwil Meddygol Byddin yr Unol Daleithiau yn yr Amgueddfa Genedlaethol Iechyd a Meddygaeth yn Silver Spring, Maryland ar hyn o bryd.”

Mae'r systemau'n defnyddio dull gwneud haen wrth haen ychwanegol ar gyfer adeiladu systemau macrofeinweoedd byw gweithredol tri dimensiwn, gan ddefnyddio deunyddiau biolegol weithredol. Mae gan y deunyddiau hyn, sy'n seiliedig ar fôn-gelloedd, nodweddion biolegol mesuradwy sy'n aeddfedu'n hwyrach i strwythur meinwe fyw.

3DS AlphaY system gyntaf yw'r 3Dynamic Alpha Series, sy'n llwyfan creu meinwe esgyrn allwthio sengl. Mae'r peiriant hwn yn creu esgyrn ar sail calsiwm ffosffad ar gyfer adffurfio toriadau ansefydlog difrifol.

Drwy ddyddodi asgwrn cyfansawdd arbennig yn gywir mewn 3D, crëir y geometreg anatomegol gywir. Mae'r deunydd hwn wedi'i hau â ffactor twf sy'n deillio o blatennau, sy'n creu'r amgylchedd cywir ar gyfer adffurfio meinweoedd drwy ddefnyddio bôn-gelloedd sy'n gallu cynhyrchu esgyrn a ffurfio strwythur cefnogol, gan gynnwys pibelli gwaed.

3DS OmegaYr ail system yw'r peiriant bioargraffu allwthio deuol, 3Dynamic Omega Series, y'i defnyddir i adeiladu meinweoedd meddal tri dimensiwn. Ar hyn o bryd mae ganddo'r gallu i greu meinweoedd cymysgryw a ddefnyddir mewn treialon profion fferyllol.

Mae'r dechneg hon yn cael ei harchwilio fel modd o fioargraffu meinweoedd gwahanol hefyd, gan gynnwys cyhyrau, bloneg a chroen. Gyda'r dechnoleg hon, mae technegau'n cael eu datblygu a allai fod yn fodd effeithiol tuag at gynhyrchu meinweoedd cymhleth trawsblanadwy ar orchymyn.

Meddai Dr Thomas: “Gallai technoleg hawdd ei defnyddio 3DS arwain at fabwysiadu mwy o ymchwil bioargraffu ac arloesi pellach yn y tymor byr drwy alluogi i ymchwilwyr yn y maes greu meinweoedd arbrofol yn effeithiol a nifer o fathau o feinweoedd ar gais.

"O ganlyniad, rhyw ddydd gallai'r dechnoleg fioargraffu a ddatblygwyd gan 3DS i drawsffurfio maes meddygaeth adffurfiol, a allai arwain at greu meinweoedd dynol newydd yn uniongyrchol ar orchymyn ar gyfer trawsblannu.

"Gallai'r dechnoleg gyffrous hon ddechrau chwyldro technolegol ym maes bioweithgynhyrchu."