Tîm Gwybodeg Iechyd Abertawe'n datblygu modiwl y Brifysgol Agored i weithwyr y GIG

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae tîm addysgu MSc Gwybodeg Iechyd Prifysgol Abertawe, yn y Coleg Meddygaeth, yn gweithio gyda'r Brifysgol Agored a Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru (NWIS) i ddarparu modiwl gwybodeg a gynlluniwyd yn arbennig ar gyfer Rhaglen Astudiaethau Cyfunol newydd y Brifysgol Agored.

Mae'r modiwl wedi'i fwriadu ar gyfer gweithwyr y GIG sy'n newydd i wybodeg neu y mae angen iddynt wella'u hymwybyddiaeth o wybodeg yn y gweithle a'r tu hwnt. 

Gan symud i ffwrdd o ddulliau addysgu traddodiadol, cynhelir y modiwl drwy ddysgu o bell yn bennaf dros gyfnod o chwe mis, ac mae gofynion presenoldeb minimol i'r myfyrwyr, felly bydd yn haws cyfuno gwaith ac astudio. 

Bydd y modiwl yn ymgorffori llwybr sy'n dilyn 'taith' arferol claf ar hyd llwybr gofal iechyd, gan gynnwys cyswllt â gofal sylfaenol ac eilaidd. 

Bydd myfyrwyr yn dysgu mwy am rai o'r themâu gwybodeg allweddol, gan gynnwys systemau gwybodeg iechyd a ddefnyddir mewn gofal sylfaenol ac eilaidd, cofnodion cleifion electronig, teleiechyd a theleofal, a chodio clinigol.

Meddai Tony Paget, Cyfarwyddwr Cwrs y Rhaglen Gradd Meistr a Addysgir Gwybodeg Iechyd, o'r Coleg Meddygaeth, "Y gobaith yw y bydd y modiwl hwn yn ddechrau perthynas gynhyrchiol â'r Brifysgol Agored a NWIS a fydd yn cyfrannu at ehangu portffolio cyrsiau sy'n cael eu datblygu gan dîm Gwybodeg Iechyd Prifysgol Abertawe.”

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Judy Jenkins drwy ffonio 01792 602873 neu e-bostio j.jenkins@abertawe.ac.uk.

Am ragor o wybodaeth am MSc Gwybodeg Iechyd Prifysgol Abertawe, ewch i www.swansea.ac.uk/postgraduate/taught/medicine/msc-health-informatics.