Under Milk Wood: an opera

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd Canolfan y Celfyddydau Taliesin, ar y cyd gydag Opera Cenedlaethol Cymru, yn cyflwyno perfformiad cynta’r byd o Under Milk Wood: an opera, sydd wedi’i seilio ar y ddrama i leisiau poblogaidd gan Dylan Thomas.

Dyddiad: 3 – 5 Ebrill 2014

Amser: 7.30pm

Lleoliad: Canolfan y Celfyddydau Taliesin, Prifysgol Abertawe, Abertawe, SA2 8PZ

Pris: Pris llawn: £20. Pobl o dan 18 mlwydd oed, myfyrwyr, yr henoed: £18

___________________________________________________________________

Ym 1954, achosodd Dylan Thomas cryn gynnwrf gyda’i ddrama i leisiau, Under Milk Wood.

Trigain mlynedd yn ddiweddarach, mae un o gyfansoddwr opera mwyaf blaenllaw Cymru, John Metcalf, yn creu opera arloesol newydd wrth iddo ail-greu byd dychmygol Dylan Thomas, sef Llareggub - y dref a aeth yn wallgof.

Mae Under Milk Wood: an opera yn gweu barddoniaeth anhygoel a digri, cerddoriaeth offerynnol gyfoes a hynafol, a sain byw a recordiau at ei gilydd sydd yn cynnig gwledd i’r glust.

Dewch i ymuno â’r hen Gapten Cat dall a'i gyd-bentrefwyr gyda’u gobeithion a'u breuddwydion yn Llareggub. Yn y pentref chwedlonol hwn, gall unrhyw beth ddigwydd - ac mae’n debyg y bydd - yn ystod y pedair awr ar hugain sydd wedi cydio yn nychymyg miliynau o bobl ym mhob cwr o’r byd.

Fel rhan o Ŵyl Dylan Thomas 100, a drwy gefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru, bydd Canolfan y Celfyddydau Taliesin yn cyflwyno perfformiad cynta’r byd o Under Milk Wood: an opera cyn i’r cynhyrchiad fynd ar daith ledled Cymru rhwng 8 - 15 Ebrill.

I archebu tocynnau neu am fanylion pellach, ffoniwch 01792 602060, neu ewch i http://www.taliesinartscentre.co.uk/undermilkwood  

Am y newyddion diweddaraf am Under Milk Wood: an opera, dilynwch @milkwoodopera ar Twitter.