Y Gweinidog dros Gyllid yn gweld sut mae campws newydd Prifysgol Abertawe, a ariennir gan yr Undeb Ewropeaidd, yn hybu swyddi a thwf

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Ymwelodd Gweinidog dros Gyllid Llywodraeth Cymru â Champws y Bae, safle newydd gwerth £450 miliwn, i weld sut mae arian yr Undeb Ewropeaidd yn helpu i hybu buddsoddiadau a chreu swyddi yn y rhanbarth.

Mae arbenigwr adfywio blaenllaw'r DU, St. Modwen, yn datblygu'r campws gyda'i bartner adeiladu, VINCI Construction UK, a chontractwyr fframwaith Prifysgol Abertawe, Leadbitter, cwmni Bouygues yn y DU.

Mae’r datblygiad, a fydd yn croesawu ei fyfyrwyr cyntaf i’r safle ym mis Medi 2015, wedi derbyn £50 miliwn gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys £35 miliwn o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, a £60 miliwn gan Fanc Buddsoddi Ewrop.  Bydd arian yr UE yn cefnogi Canolfan Cynhyrchu Ynni ac Arloesi, a fydd yn darparu cyfleusterau ymchwil o'r radd flaenaf ac yn galluogi i'r brifysgol wella’i gallu i ennill grantiau cyngor ymchwil a ffynonellau eraill o arian yr UE, gan gynnwys cronfa Horizon 2020, ar gyfer ymchwil ac arloesi. 

Jane Hutt topping out at Bay campus 20 Feb 14Bydd hefyd yn creu amgylchedd ‘arloesed agored’ i ddiwydiannau gydweithio ag arbenigeddau academaidd i helpu i ddatblygu prosesau a chynnyrch gweithgynhyrchu a chyflwyno rhai newydd, gan gyfrannu at dwf economaidd y rhanbarth.

Yn ogystal â hybu gwaith ymchwil ac arloesi, mae Campws y Bae hefyd yn cynnig cyfleoedd cyflogaeth sylweddol i’r ardal.  Mae mwy na 1,100 o weithwyr eisoes wedi’u cyflogi i weithio ar y safle.  Mae mwy na 200 o gyfleodd is-gontractio, gyda 100 ohonynt wedi’u neilltuo ar gyfer cwmnïau o ardal Bae Abertawe ac ar draws Cymru.  

Yn ystod ei hymweliad, gosododd y Gweinidog dros Gyllid garreg gopa yn un o'r adeiladau preswyl i fyfyrwyr*, a fydd yn gartref i 900 o fyfyrwyr.

Meddai Jane Hutt,

"Mae hon yn enghraifft wych o fanteision arian yr UE yng Nghymru, gan helpu i sefydlu cyfleuster arloesed ac ymchwil blaenllaw i yrru ein heconomi wybodaeth, ac ar ben hynny mae’n creu cyfleodd cyflogaeth a sgiliau yn lleol drwy adeiladu’r campws. 

Rwyf hefyd yn falch o weld sut y mae'r Llywodraeth a sefydliadau o Gymru yn gweithio gyda buddsoddwyr preifat, megis Banc Buddsoddi Ewrop, i ddatblygu datrysiadau ariannu ar gyfer buddsoddiadau seilwaith yng Nghymru.  "

Meddai’r Athro Richard B.  Davies, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe,

"Mae Campws newydd y Bae wedi’i gydnabod fel un o brosiectau economi wybodaeth blaenllaw Ewrop.  Mae’r datblygiad mawr hwn yn bosib oherwydd ariannu sylweddol y Llywodraeth, Cronfeydd Strwythurol Ewrop a Banc Buddsoddi Ewrop, yn ogystal â diwydiannau.

Golyga’r gweithio mewn partneriaeth y gall y Brifysgol barhau i ehangu, gan ddarparu cyfleoedd newydd i’n myfyrwyr a diwallu anghenion diwydiant drwy ddarparu ymchwil o safon fyd-eang, gan helpu i yrru twf economaidd yn rhanbarth Bae Abertawe a’r tu hwnt. 

Mae’n bleser gen i groesawu'r Gweinidog dros Gyllid yma heddiw i ddangos maint enfawr Campws y Bae ac ansawdd yr adeiladau a'r cyfleusterau y bydd myfyrwyr, staff a'n partneriaid diwydiannol yn eu mwynhau."

Meddai Rupert Joseland, Cyfarwyddwr Rhanbarthol St. Modwen, arbenigwr adfywio blaenllaw'r DU a’r perchennog preifat tir llwyd mwyaf yn ne Cymru,

“Mae’n bleser gennym nodi gosod carreg gopa ar yr adeilad preswyl i fyfyrwyr cyntaf ar y safle gydag ymweliad y Gweinidog dros Gyllid.  Pan gaiff cam cyntaf y datblygiad hwn ei gwblhau yn 2015, caiff y campws ei adnabod fel un o’r ychydig o brifysgolion byd-eang sydd â mynediad uniongyrchol i draeth a phromenâd ar lan y môr. 

Mae Campws newydd y Bae, sydd werth £450 miliwn, yn rhan o ddatblygiad cysylltiedig St. Modwen sydd werth £2.2 biliwn, yn ogystal â’r safle cyflogaeth gwerth £500 miliwn ym Mae Baglan a chymuned gynaliadwy gwerth £1 biliwn yng Nghoed Darcy yng Nghastell-nedd. 

Mae ein buddsoddiad yn y prosiect blaenllaw hwn yn sicrhau ein hymroddiad tymor hir i hybu adfywio cymdeithasol ac economaidd ar draws de Cymru.”