Ymchwil Abertawe yn cyrraedd 30 uchaf y DU - Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2014

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae canlyniadau'r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2014, a gyhoeddwyd heddiw (dydd Iau, 18 Rhagfyr), yn dangos fod Prifysgol Abertawe wedi cyflawni ei uchelgais i fod yn y 30 uchaf o brifysgolion ymchwil y DU, gan neidio i safle 26 yn nhabl cynghrair y DU, o safle 52 yn 2008

Ceir manylion pellach yma:  REF2014 top 40 by GPA

Daw’r naid wrth i’r Brifysgol baratoi i agor y drysau i’r campws gwyddoniaeth ac arloesi newydd, Campws y Bae. Bydd y datblygiad newydd, sy’n werth £450 miliwn, yn galluogi’r Brifysgol i ddatblygu ymhellach yn y dyfodol.

REF2014 Meddai’r Athro Richard B. Davies, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe: "Mae prifysgol Abertawe yn parhau i godi i’r entrychion, felly roeddem yn disgwyl gweld gwelliannau sylweddol yng nghanlyniadau REF, ond rydym ni hyd yn oed wedi’n synnu gan faint ein llwyddiant. Mae'n hynod o braf ein bod wedi dyblu ein hymchwil o'r radd flaenaf yn y chwe blynedd ers canlyniadau 2008, gyda thraean o'n hymchwil yn ‘arwain y byd’. Mae hyn yn ein gosod yn yr un rheng â rhai o sefydliadau addysg uwch gorau’r DU. Mae’r canlyniad hefyd yn agor drysau i fwy o gyfleoedd am gyllid ymchwil. Rydym wedi dangos ein bod yn gryf ar draws disgyblaethau academaidd, pynciau STEM i gelfyddydau a'r dyniaethau”.

‌‌Am y tro cyntaf, roedd REF yn barnu prifysgolion ar yr effaith mae eu hymchwil yn ei chael ar y byd ehangach.

‌Barnwyd bod 90% o waith ymchwil Abertawe yn rhagorol yn rhyngwladol o ran ei heffaith, gan arddangos ein cyfraniad i'r rhanbarth, economi Cymru, ac yn rhyngwladol

Cyflwynodd Prifysgol Abertawe gwaith gan bron 400 o staff, gan gynnwys 74 o ymchwilwyr gyrfa gynnar, o dros 18 o feysydd pwnc i asesiad REF 2014.

Roedd y dystiolaeth a ddarparwyd yn cynnwys mwy na 1,400 o bapurau ymchwil, penodau llyfrau, erthyglau, llyfrau, ac allbynnau eraill a gyhoeddwyd o 63 o grwpiau ymchwil, yn ogystal â mwy na 50 o astudiaethau achos sy'n dangos ehangder ac effaith ymchwil y Brifysgol.

Mae enghreifftiau o rai o'r ymchwil o'r radd flaenaf a gyflwynwyd gan Brifysgol Abertawe ar gyfer REF 2014 yn cynnwys:

  • Sut ddarparodd yr Athro David Bewley-Taylor, Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau, her i ddoethineb confensiynol o fewn dadleuon lefel uchel ar reoli cyffuriau rhyngwladol.
  • Sut sefydlodd yr Athro M Wynn Thomas a’r Athro Dai Smith, Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau, Library of Wales, sydd wedi dylanwadu ar bolisi Llywodraeth Cymru i fod o fudd i'r diwydiannau creadigol, twristiaeth ddiwylliannol, addysg a darllenwyr cyffredinol.
  • Sut mae ymchwilwyr o'r Ganolfan Ymchwil Defnyddiau (MRC), y Coleg Peirianneg, wedi datblygu haenau newydd ar gyfer Tata Steel Ewrop drwy ymchwil gydweithredol.
  • Sut mae ymchwil i ddeunyddiau o fewn y Coleg Peirianneg wedi bod yn sail i ddyluniad, effeithlonrwydd a gwasanaeth diogel yn nhyrbinau nwy Rolls-Royce.
  • Sut ddatblygodd yr Athro David Benton, gyda chymorth myfyrwyr a chynorthwywyr ymchwil o’r Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd, dull a oedd yn caniatáu i ddyluniad eitemau bwyd hwyluso gweithrediad seicolegol.
  • Sut effeithiodd ymchwil gan yr Athro Ceri Phillips, Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd, i economeg poen a rheoli poen ar bolisïau, ymarfer a chleifion.
  • Sut mae ymchwilwyr o Goleg y Gyfraith wedi siapio cyfraith newydd ar hawliau dynol plant a phobl ifanc yng Nghymru, sydd hefyd wedi denu diddordeb arwyddocaol yn rhyngwladol.
  • Sut mae ymchwil gan economegwyr o'r Ysgol Rheolaeth, a ddatgelodd anghydraddoldebau o fewn gwahanol swyddi.  
  • Sut fod ymchwil gan yr Athro Helen Snooks, Coleg Meddygaeth, wedi lleihau presenoldeb diangen o fewn adrannau achosion brys mewn ysbytai trwy wella gofal allan o'r ysbyty.
  • Sut wellodd ymchwil yr Athro Rory Wilson, Coleg Gwyddoniaeth, dealltwriaeth y cyhoedd ar symudiadau pellter hir anifeiliaid drwy ddatblygu dyfais tagio cafodd ei ddefnyddio yng nghyfres Great Migrations y National Geographic.
  • Sut ddefnyddiodd y grŵp Modelu Amgylcheddol Byd-eang ac Arsylwi'r Ddaear (GEMEO) data gan Sbectroradiomedr Delweddu Eglurdeb Cymedrol NASA(MODIS) i  weithio yn uniongyrchol gyda Swyddfa Dywydd y DU a Chanolfan Ewropeaidd ar gyfer Rhagolygon Tywydd Cyfnod Canolig (ECMWF) i wella rhagolygon y tywydd a rhagfynegiadau hinsawdd.

Ychwanegodd yr Athro Davies: “Mae canlyniadau REF yn cadarnhau bod gwaith ymchwil Prifysgol Abertawe yn cael effaith sylweddol, parhaus ac effaith economaidd a chymdeithasol gwerthfawr, nid yn unig o fewn Cymru neu'r DU, ond yn rhyngwladol. Rwy'n hynod falch o'n cydweithwyr ar draws y Brifysgol a sut mae eu cyflawniadau a’r effaith mae eu gwaith yn cael ar gymaint o fywydau, mewn amrywiaeth o ffyrdd.

“Mae canlyniadau gwych REF 2014 i Abertawe yn ddiweddglo i flwyddyn arbennig i Brifysgol Abertawe. Gwelwyd cynnydd yn incwm ymchwil, niferoedd myfyrwyr, ac rydym wedi derbyn sawl gwobr, gan gynnwys Prifysgol y Flwyddyn What Uni, Prifysgol y Flwyddyn am ymgysylltu â busnesau yn ôl Insider Magazine, a chyrraedd rhestr fer categori Prifysgol y Flwyddyn yng ngwobrau’r Times Higher.

“Ac mae hyd yn oed mwy o bethau gwell i ddod wrth i ni baratoi i agor Campws y Bae ym mis Medi 2015, yn ogystal â’r datblygiadau a’r gwaith adnewyddu ar Gampws Parc Singleton. Daw’r flwyddyn newydd â chyfnod newydd i Brifysgol Abertawe, yn ogystal â dod â ni yn nes at wireddu ein huchelgais o ddod yn y 200 uchaf o brifysgolion byd-eang”.

 Am ganlyniadau llawn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2014, ewch i: http://www.ref.ac.uk/.