Ymweliad Llywydd Iwerddon yn dathlu dau ddegawd o gydweithio rhwng Iwerddon a Chymru

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Heddiw dathlwyd ugain mlynedd o’r Rhaglen Drawsffiniol rhwng Iwerddon a Chymru pan fynychodd gwestai arbennig, Llywydd Iwerddon, Michael D. Higgins, ddigwyddiad arbennig yn arddangos gwaith y rhaglen gydweithredol lwyddiannus iawn, a gynhaliwyd gan Sefydliad Gwyddor Bywyd (ILS2) Prifysgol Abertawe yn y Coleg Meddygaeth.

Irish President signs the ILS wall

Dathlodd Llywydd Higgins ddau ddegawd o gydweithio llwyddiannus drwy gwrdd â chynrychiolwyr y prosiectau o Gymru ac Iwerddon yn y digwyddiad a gynhaliwyd yng Nghanolfan ILS2 ac ar ddiwedd y digwyddiad arwyddodd y Llywydd wal Llysgenhadon y Ganolfan.

Cyflwynwyd “The Collected Poems of Dylan Thomas” a olygwyd gan yr Athro John Goodby o Goleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau yn y Brifysgol sy’n arbenigwr blaenllaw ar waith Dylan Thomas, i Lywydd Higgins, sydd hefyd yn fardd ac yn awdur sydd wedi cyhoeddi gwaith ac yn edmygwr o waith Dylan Thomas.

Meddai’r Athro Hilary Lappin-Scott, Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol Abertawe yn y digwyddiad: “Hoffem ddiolch yn gynnes i Lywydd Higgins am ymweld â Phrifysgol Abertawe heddiw i ddathlu 20 mlynedd o gydweithio trwy Raglen Drawsffiniol Iwerddon a Chymru. Rydym hefyd yn edrych ymlaen yn fawr at ddatblygu cysylltiadau yn y dyfodol a, gobeithio, yr ugain mlynedd nesaf a mwy o lwyddiant cydweithredol parhaus.”

Meddai’r Athro Keith Lloyd, Pennaeth y Coleg Meddygaeth: "Mae’n fraint o’r mwyaf i ni gael croesawu Llywydd Higgins, Llysgennad Mulhern a’r Gweinidog Jane Hutt yma i’r Coleg Meddygaeth sy’n dathlu’i ddengmlwyddiant eleni”.

Mae rhai o brosiectau allweddol Prifysgol Abertawe sy’n ffurfio rhan o Raglen Drawsffiniol Iwerddon a Chymru’n cynnwys:

  • Y Cynghrair Celtaidd ar gyfer Nanoiechyd (CAN). Coleg Meddygaeth Prifysgol Abertawe yw’r prif bartner mewn cynghrair ar y cyd â Choleg y Drindod Dulyn, Prifysgol Dinas Dulyn, a Choleg Prifysgol Dulyn, a thrwy ddefnyddio nanotechnoleg mewn gofal iechyd, mae’r cynghrair wrthi’n helpu cwmnïau ar bob ochr Môr Iwerddon i aros ar flaen y gad o ran arloesi a thwf, mewn sector gofal iechyd sy’n datblygu’n gyflym ac sy’n hynod ddylanwadol. 
  • EcoJel. Mae’r cydweithrediad hwn rhwng Prifysgol Abertawe a Choleg Prifysgol Corc, yn asesu cyfleodd ac effeithiau niweidiol sglefrod môr ym Môr Iwerddon.
  • IMPACT (prosiect sy’n canolbwyntio ar reoli integredig o ran plâu mewn coedwigoedd gan fynd i’r afael â thueddiadau hinsoddol). Mae’r prosiect hwn, a arweinir gan Forest Research Cymru, Aberystwyth, gyda phartneriaid ym Mhrifysgol Genedlaethol Iwerddon, Prifysgol Maynooth a Phrifysgol Abertawe, yn asesu sut y bydd newid hinsoddol yn dylanwadu ar y ffordd y mae plâu’n niweidio’n coed a’n coedwigoedd.
  • SUSFISH. Mae’r prosiect hwn yn dod â Phrifysgolion Bangor, Aberystwyth, Corc ac Abertawe ynghyd i lunio canllawiau ar gyfer rheoli pysgodfeydd y dyfodol a pholisïau’r diwydiant pysgod cregyn yn Iwerddon a Chymru ar gyfer y 50-100 mlynedd nesaf.
  • Rhwydwaith Cymru ac Iwerddon ar gyfer Technolegau Ffotofoltaidd Arloesol (WIN-IPT). Mae’r fenter hon a lywir gan ddiwydiant yn fenter rhwng Sefydliad Technoleg Waterford a Phrifysgolion Abertawe a Bangor, yn ogystal ag amrywiaeth o bartneriaid masnachol ac fe’i dyluniwyd i hyrwyddo arloesi a gwella cyfleoedd busnes ar gyfer BBaChau sy’n gweithio ym maes technolegau Ffotofoltaidd (PV).